Fel un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.
Yn ogystal â’r amserlen arferol sy’n llawn cystadlaethau, arddangosfeydd a sioeau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i siopwyr brynu anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol. Bydd y Neuadd Fwyd yn llawn o gynhyrchwyr gorau Cymru yn arddangos eu cynnyrch ac yn denu ymwelwyr i flasu’r amrywiaeth eang o ddanteithion blasus sydd ar gael.
Pa ffordd well o ddechrau tymor y Nadolig na thrwy ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru?
Cynhelir Ffair Aeaf 2026 ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr.
Beth sy'n digwydd
Adloniant, cystadlaethau, siopa, tân gwyllt, Groto Siôn Corn a mwy – darganfyddwch beth sy’n digwydd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Map y Ffair Aeaf

Cwestiynau Cyffredin
Oes gennych gwestiwn am y Ffair Aeaf? Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin i ddod o hyd i’r ateb...
Rhaid cyflwyno cardiau adnabod cydnabyddedig cŵn cymorth er mwyn cael mynediad. Caniateir cŵn cymorth yn y Neuadd Fwyd ac yn yr ardaloedd arlwyo, ond ni chaniateir iddynt fynd i mewn i unrhyw adeiladau sy’n gartref i dda byw, ceffylau neu adar.
Dylid rhoi gwybod i Reolaeth y Sioe am unrhyw gŵn sy’n cael eu gadael heb neb yn gofalu amdanynt mewn cerbydau.
Ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, mae mannau parcio ger y fynedfa ar gael yn ein maes parcio. Ni ellir archebu mannau parcio i bobl anabl ymlaen llaw, ac maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.