Mae cystadlu wrth galon Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan ddod ag arddangoswyr ynghyd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i arddangos y gorau oll ym maes amaethyddiaeth, sgiliau gwledig a chrefftwaith. O ddosbarthiadau mawreddog da byw a cheffylau i’r Sioe Gŵn boblogaidd, Cystadlaethau Cigyddiaeth, Crefftau Cartref, Celf Flodau ac Adrannau Wyau a Dofednod, mae cyfleoedd i gystadleuwyr o bob oedran ac â phob math o ddiddordebau. Porwch drwy’r amserlenni, gwybodaeth am gofrestru a chanlyniadau pob adran isod.