Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) gyhoeddi mai Iwan Rhys Parry yw enillydd ei Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen ar gyfer 2027. Mae’r Fwrsariaeth yn wobr flynyddol sy’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth.

Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnig bwrsariaeth i alluogi unigolyn ifanc i fynd i Gynhadledd Ffermio uchel ei bri Rhydychen, a gynhelir ddechrau mis Ionawr. I fod yn gymwys, rhaid bod ymgeiswyr rhwng 21 a 35 oed, wedi byw yn yr ardaloedd a wasanaethir gan Bwyllgorau Cynghorol Sirol CAFC am o leiaf bum mlynedd, ac yn gweithio mewn diwydiant sy’n seiliedig ar y tir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael gwahoddiad i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr y Gymdeithas yn 2027, i fyfyrio ar eu profiad.

Thema Cynhadledd 2027 yw “Harmoni”, a bydd yn cael ei chynnal rhwng 6 ac 8 Ionawr 2027. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gydnabod ers tro fel un o lwyfannau mwyaf dylanwadol y diwydiant, ac mae’n dod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr a gweithwyr proffesiynol o gefn gwlad at ei gilydd i drafod materion allweddol ac archwilio dyfodol amaethyddiaeth. Ymhlith nifer o bynciau i’w trafod, bydd y digwyddiad sydd ar droed yn archwilio sut y gall mwy o gydweithio a rhannu dealltwriaeth helpu i adeiladu diwydiant bwyd a ffermio gwydnach.

Enwebodd y Pwyllgorau Cynghorol Sirol yr ymgeiswyr canlynol, a chafodd bob un gyfweliad o flaen panel o feirniaid a oedd yn cynnwys Mr Jonathan H. Davies, Miss Menna Davies (cynrychiolwyr CAFC) a Dr Eiry Williams (enillydd bwrsariaeth 2026):

Sir Frycheiniog – Elin Protheroe
Sir Gaerfyrddin – Angharad Thomas
Clwyd a Swydd Gaer – Iwan Parry
Ceredigion –Dewi Davies
Morgannwg – Isobel Thomas
Gwent – Dominic Hampson-Smith
Meirionnydd –Enion Llwyd Williams
Maldwyn – Marc Griffiths
Maesyfed – Elizabeth Swancott

Canmolodd y beirniaid yr ymgeiswyr i gyd am eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad a’u hangerdd dros ddyfodol y diwydiant amaethyddol, gan nodi safon drawiadol y rheiny a gafodd eu cyfweld.

Ar ôl trafod yn ofalus, cytunodd y panel y dylid dyfarnu Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2027 i Iwan Parry, o Dremeirchion, Llanelwy, Sir Ddinbych, gan ei ddisgrifio fel ‘amaethwr ifanc angerddol a blaengar’.

Ac yntau wedi graddio o Goleg Reaseheath yn Swydd Gaer naw mlynedd yn ôl gyda Rhagoriaeth yn ei Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth, mae Iwan wedi chwarae rhan annatod ers hynny yn rhedeg menter cig eidion a defaid ei deulu. Yn ystod ei astudiaethau, cafodd ei ddewis hefyd i gynrychioli’r coleg yn The Farmer’s Country Showdown y BBC, a oedd yn cynnwys ffilmio ar fferm ei deulu.

Mae Iwan yn aelod hirsefydlog o CFfI Chwitffordd a wedi bod yn rhan o’r mudiad Ffermwyr Ifanc ers un mlynedd ar bymtheg, gan wasanaethu fel Cadeirydd Sirol CFfI Clwyd a chael gwobr Uwch-aelod y Flwyddyn. Mae hefyd wedi cynrychioli ei sir yn llwyddiannus ar lefel genedlaethol wrth feirniadu da byw ac mewn siarad cyhoeddus.

Mae ei gyfraniad at amaethyddiaeth yn ymestyn y tu hwnt i’r fferm, ac yntau wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Cynghorol Sirol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer Clwyd a Swydd Gaer. Ar hyn o bryd mae’n Ysgrifennydd Adran y Gwartheg ar gyfer Sioe Amaethyddol Caerwys.

Mae gan Iwan ddiddordeb brwd yng ngeneteg da byw ac mewn treialon ar y fferm a chofnodi data, ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio ymchwil wyddonol a phenderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella effeithlonrwydd a datblygu’r busnes teuluol.

Mae’r un mor ymroddedig i’w gymuned leol, ac yn cefnogi digwyddiadau elusennol a mentrau codi arian yn rheolaidd. Ym mis Rhagfyr 2025, roedd yn rhan o’r tîm trefnu y tu ôl i’r Daith Dractorau Nadoligaidd flynyddol, a gododd fwy na £4,000 i Sefydliad DPJ.

Bydd Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2027 yn dod â lleisiau blaenllaw o bob rhan o fyd amaethyddiaeth, gwyddoniaeth, busnes a’r amgylchedd at ei gilydd, ac mae’r siaradwyr yn cynnwys y gwyddonwyr amaethyddol Dr Sarah Hearne a Dr Rosie Bryson, Llywydd NFU Cymru Abi Reader, a Cammy Wilson o The Sheep Game. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys trafodaeth enwog Undeb Rhydychen, gan archwilio’r cwestiwn, ‘ai meddylfryd yw’r rhwystr mwyaf i gynnydd mewn ffermio’.

Mae’r Gymdeithas yn llongyfarch Iwan ar ei gyflawniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y gynhadledd ym mis Ionawr.

Cyflwynir y wobr i Iwan ddydd Llun 30 Tachwedd yn seremoni agoriadol y Ffair Aeaf, a gynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Am ragor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.