Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig y cyfle perffaith ac unigryw i ddangos y gadwyn fwyd o'r fferm i'r fforc i blant ysgol a myfyrwyr coleg.

Mae'r Ffair Aeaf yn unigryw o gymharu â digwyddiadau eraill y Gymdeithas gan ei bod yn digwydd yn ystod tymor y ysgol. Bob blwyddyn mae mwy o ysgolion a cholegau yn gweld gwerth addysgol mynychu'r digwyddiad hwn i ddysgu am gynhyrchu bwyd, y gadwyn gyflenwi a sefydliadau amaethyddol.

Gan gyffwrdd â llawer o agweddau ar y cwricwlwm, mae ymweliad â'r Ffair Aeaf yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu am amaethyddiaeth mewn perthynas â astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.

Teithiau Ysgol a Choleg

Mae plant ysgol a myfyrwyr addysg uwch yn cael eu croesawu a’u hannog i ddod i’r Ffair Aeaf. Mae rhannu’r wybodaeth am amaethyddiaeth a sut y cynhyrchir bwyd yn hanfodol ac yn fenter y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn awyddus i ymwneud â hi fwyfwy.

Mae’r Ffair Aeaf am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd, gyda chyfradd ostyngol o £10 i fyfyrwyr addysg uwch.

Rhaid i ysgolion, colegau, a phrifysgolion gofrestru eu hymweliadau grŵp erbyn 30 Hydref 2026.

Gyrfaoedd yng Nghefn Gwlad

Ffocws y Cynnig Addysg eleni yw Gyrfaoedd yng Nghefn Gwlad ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgolion uwchradd archwilio’r dewis eang o yrfaoedd sydd ar gael mewn diwydiannau gwledig ac amaethyddol a diwydiannau sy’n seiliedig ar y tir.

Bydd cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiannau, darganfod cyfleoedd am brentisiaethau, dysgu am lwybrau gyrfa a’r amrywiaeth eang o yrfaoedd cyffrous sydd ar gael ar draws y sector cefn gwlad.

Rhoddir rhaglen y Ffair Yrfaoedd i bob ysgol, gan dynnu sylw at y busnesau a’r sefydliadau fydd yn bresennol a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill detholiad o wobrau, yn ogystal â chasglu gwybodaeth ddefnyddiol a rhai eitemau hyrwyddo gan arddangoswyr.

Dilynwch y gadwyn fwyd

Wrth weld yr anifeiliaid yn y cylchoedd, bydd myfyrwyr yn gallu mwynhau’r nifer enfawr o fridiau gwahanol – boed yn wartheg, yn ddefaid neu’n foch, bydd cannoedd o fridiau gwahanol i’w gweld. Bydd cyfle i sgwrsio â’r ffermwyr a’r arddangoswyr i gael gwybod beth mae magu’r da byw yn ei olygu.

Nesaf, gwyliwch wrth i’r anifeiliaid gael eu paratoi i’w dangos. Cewch eu gweld yn y cylchoedd a gweld y broses feirniadu – beth sy’n gwneud yr anifail perffaith a phwy fydd yn mynd â’r rhosed arbennig adref?

Yna, mae yna arwerthiannau da byw brynhawn Dydd Mawrth lle mae cannoedd o brynwyr yn cystadlu i brynu’r arddangosion gorau.

Bydd ymweliad â’r neuadd garcasau yn dangos i’r myfyrwyr chwilfrydig sut olwg sydd ar yr anifeiliaid pan fyddant yn dod allan o’r lladd-dy. Bydd amrywiaeth o enghreifftiau o garcasau i’w gweld a chyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol am yr hyn sy’n cael ei ddangos a tharddiad ein darnau cig poblogaidd.

Nesaf mae’r cystadlaethau cigyddiaeth a’r arddangosiadau lle byddwch yn gweld enghreifftiau o ddofednod wedi’u paratoi, selsig, bacwn, byrgyrs a chynhyrchion cig eraill yn ystod deuddydd y Ffair.

Ac wrth gwrs mae’r arddangosiadau coginio yn dangos sut y gellir defnyddio’r cig ym mhob math o brydau, o fyrgyrs, i dro-ffrïo, o gyris i frechdanau bacwn… mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw!

Yna mae’r cynnyrch gorffenedig. Yn y Neuadd Fwyd, bydd myfyrwyr yn gweld y cynnyrch terfynol yn cael ei arddangos ac ar werth– yr enghraifft berffaith o oriau, diwrnodau, wythnosau, weithiau blynyddoedd o ymdrech gan fridwyr, ffermwyr, cigyddion a chynhyrchwyr i ddod â’r bwyd sy’n annwyl i ni at ein byrddau.

Adnoddau

Bydd adnoddau addysgol a dalennau gweithgareddau i blant oedran cynradd ar gael yn y Ffair Aeaf ac i’w lawrlwytho ar wefan Twinkl.