Teithio mewn car

Mae Maes y Sioe wedi’i leoli lle mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ac mae arwyddion clir i’r digwyddiad o bob cyfeiriad.

Mae maes parcio am ddim ar ben isaf Maes y Sioe, sy’n daith fer ar droed i brif fynedfa’r digwyddiadau. Mae man parcio hwylus ar gael yn ein maes parcio i ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas.

Dilynwch gyfarwyddiadau’r marsialiaid traffig a pharcio i sicrhau eich bod yn parcio’n gyflym ac yn ddiogel.

Teithio ar y trên neu fws

Ein gorsaf drên agosaf yw Heol Llanfair, ychydig dros filltir o Faes y Sioe.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd y T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn aros yn Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, sy’n daith fer ar droed o Faes y Sioe.

I gael rhagor o wybodaeth ac amserlenni ewch i:

www.trawscymru.info
www.traveline.cymru