Fel ymwelydd rhyngwladol, p’un ai a ydych chi’n ymweld â’r sioe oherwydd rhesymau busnes neu i fwynhau, fe’ch gwahoddir i ymweld â’r Pafiliwn Rhyngwladol. Yn ogystal â chroeso cynnes, yno, gallwch chi ganfod:

  • Stiwardiaid gwybodus sydd ag amrywiaeth o sgiliau ieithyddol
  • Canllawiau i’ch helpu i elwa’n llawn o’ch ymweliad â’r sioe
  • Copi o raglen y sioe am ddim
  • Gofod i ymlacio a chwrdd a rhwydweithio gyda ffrindiau, hen a newydd
  • Man cyfarfod ar gyfer eich grŵp neu deulu
  • Lluniaeth ysgafn am ddim (Te, Coffi, Pice ar y Maen)
  • WiFi am ddim
  • Lle i wefru eich ffonau a’ch tabledi
  • Ystafell gyfarfod busnes fach ar gael ar gyfer cyfarfodydd preifat
  • Cyfleusterau toiledau

Os ydych chi’n ymwelydd rhyngwladol, dewch i gofrestru yn y pafiliwn yn Rhodfa K, ble rhoddir bathodyn i chi yn cynnig mynediad am ddim i chi i’r Pafiliwn Rhyngwladol tra byddwch yn y sioe.

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.