Teithio mewn car

Mae Maes y Sioe wedi’i leoli lle mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Mae ein meysydd parcio a theithio AM DDIM wedi’u lleoli ar bob prif lwybr i Faes y Sioe ac mae arwyddion da iddynt o bob cyfeiriad.

Dilynwch gyfarwyddyd y marsialiaid traffig a pharcio i sicrhau eich bod yn parcio’n gyflym ac yn ddiogel a chofiwch nodi ym mha faes parcio rydych wedi parcio.

Bydd bysiau parcio a theithio rheolaidd AM DDIM yn rhedeg i Faes y Sioe ac oddi yno rhwng 7.30am a 9.30pm.

Teithio ar y trên

Ein gorsaf drên agosaf yw Heol Llanfair. Bydd bws gwennol AM DDIM yn dod â chi’r pellter byr i’r maes sioe.

Bydd y bysiau gwennol yn dychwelyd i’r orsaf drên, gan adael mynedfa Peiriannau’r maes sioe, 30 munud cyn i bob trên adael.

I gael mwy o wybodaeth ac amserlen gyfredol ewch i:

Transport for Wales: www.tfw.wales
Trainline: www.thetrainline.com

Teithio ar y bws

Mae llwybr bws rheolaidd y T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn aros yn Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, sy’n daith fer ar droed i Faes y Sioe.

I gael rhagor o wybodaeth ac amserlen gyfredol ewch i:

Transport for Wales: www.tfw.wales
Trainline: www.thetrainline.com

Parcio i'r anabl

Mae ardal barcio lle gellir trefnu lle i barcio ymlaen llaw ar gael yn ein holl feysydd parcio a theithio i ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas. Bydd bysiau gwennol parcio a theithio AM DDIM â mynediad isel yn mynd ag ymwelwyr i Faes y Sioe ac oddi yno rhwng 7.30am a 9.30pm.

Mae gennym nifer gyfyngedig o fannau parcio premiwm hefyd, am dâl, i ymwelwyr i Faes y Sioe. Dim ond trwy arddangos y tocynnau parcio cywir, y mae’n rhaid eu prynu ymlaen llaw drwy ffonio 01982 553683, y bydd modd cael mynediad i’r maes parcio hwn.