Fel ymwelydd rhyngwladol, efallai eich bod chi’n ymweld â’r Sioe am resymau busnes neu i fwynhau. Beth bynnag fo’ch rheswm, fe’ch gwahoddir i ymweld â’r Pafiliwn Rhyngwladol. Yn ogystal â chroeso cynnes, cewch hyd i:
• Stiwardiaid gwybodus sydd ag amrywiaeth o sgiliau ieithyddol
• Canllawiau i’ch helpu i elwa’n llawn ar eich ymweliad â’r Sioe
• Copi o raglen y Sioe am ddim
• Lle i ymlacio, cwrdd â ffrindiau hen a newydd a rhwydweithio
• Man cyfarfod ar gyfer eich grŵp neu deulu
• Lluniaeth ysgafn am ddim (Te, Coffi, Pice ar y Maen)
• WiFi am ddim
• Lle i wefru eich ffonau a’ch tabledi
• Ystafell fach ar gyfer cyfarfodydd busnes ar gael ar gyfer cyfarfodydd preifat
• Toiledau
Os ydych chi’n ymwelydd rhyngwladol, dewch i gofrestru yn y pafiliwn yn Rhodfa K, ble rhoddir bathodyn i chi yn cynnig mynediad am ddim i chi i’r Pafiliwn Rhyngwladol tra byddwch yn y Sioe.