Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Cystadleuaeth Trefnu Blodau Rhithiol CAFC!

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb – p’un a ydych yn arddangoswr profiadol, yn ddechreuwr neu’n rhoi cynnig ar trefnu blodau am y tro cyntaf.

Teitl y Dosbarth: ‘Ysblander yr Hydref’
Dyddiad Cau: 23 Hydref 2026

Mi fydd ond un dosbarth – arddangosfa flaenol, deunydd planhigion ffres – o fewn gofod o 76cm o led, 68cm o ddyfnder ac uchder yn anghyfyngedig.

Dylai’r arddangosfa fod yn waith y cystadleuydd ei hun ac wedi’i greu ar gyfer y gystadleuaeth hon a heb gael ei gyflwyno yn unrhyw le arall o’r blaen.

Bydd disgwyl i’r arddangoswyr anfon lluniau wyneb blaen ac wyneb ochr o’r arddangosfa, a rhaid i’r delweddau fod o ansawdd uchel (er enghraifft, JPG neu PNG). Rhaid dangos y mesuriadau o fewn y delweddau i ddangos bod yr arddangosfa o’r maint cywir.

Dim ond trwy e-bost y byddwn yn derbyn y ceisiadau a rhaid iddynt gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau. Mae angen i arddangoswyr gynnwys eu henw a rhif ffôn.

Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu yn unol â rhifyn diweddaraf rheolau NAFAS ac mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Beirniaid ar gyfer 2026 yw Mrs Rosemarie Harris a Mrs Elizabeth Thomas.

Dim ond enillydd gwobr gyntaf fydd yn cael ei dewis. Fe fydd yr enillydd yn cael gwybod unwaith y bydd y beirniadu wedi cwblhau ac mi fydd yn derbyn 2 docyn mynediad am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2026.

Trwy gofrestru, rydych yn rhoi hawl i CAFC ddefnyddio eich delwedd ar gyfer hyrwyddo’r digwyddiad, hysbysebu canlyniadau a hyrwyddiant ar ôl y gystadleuaeth

Am unrhyw gwestiynau ac i gystadlu, ebostiwch [email protected]

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.