CAFC yn dod â’r Ŵyl Wanwyn i fwcl er mwyn cryfhau’r ffocws ar gyfer y dyfodol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Yn dilyn adolygiad strategol cynhwysfawr o weithgarwch, ac ar ôl ystyried yn ofalus, mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi dod i’r penderfyniad i ddod â’r Ŵyl Wanwyn i fwcl.

Bydd y cam hwn yn caniatáu i’r Gymdeithas ganolbwyntio ar ei phrif ddigwyddiad, sef Sioe Frenhinol Cymru, ochr yn ochr â’r Ffair Aeaf, ac yn ei galluogi i sicrhau cynnydd nifer o brosiectau strategol allweddol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o brosiectau ailddatblygu ar Faes y Sioe yn Llanelwedd, gweithredu systemau tocynnau a chystadlu digidol gwell, mwy o gefnogaeth i siroedd nawdd, ac archwilio prosiectau newydd a ffyrdd arloesol o gyflawni amcanion elusennol y Gymdeithas.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn agored i archwilio cyfleoedd i agweddau ar yr Ŵyl Wanwyn, fel y sioeau ceffylau a chŵn, barhau yn annibynnol, gan sicrhau bod elfennau o’r digwyddiad a werthfawrogir yn fawr yn gallu parhau a ffynnu ar ffurf newydd.

“Rydyn ni’n hynod o falch o’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud wrth lwyfannu’r Ŵyl Wanwyn dros y blynyddoedd,” meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC.

“Mae hyn yn ganlyniad i ymroddiad ac angerdd y pwyllgor, dan arweiniad Cyfarwyddwr Anrhydeddus yr Ŵyl, Mr Geraint James, yn ogystal â’r cyn-Gyfarwyddwyr Anrhydeddus, Cadeiryddion, ac aelodau niferus o staff, gwirfoddolwyr, arddangoswyr, masnachwyr a noddwyr sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol.

Er ein bod yn deall y gallai’r newyddion fod yn destun siom i lawer, rydym eisiau mynegi ein diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu at yr Ŵyl Wanwyn ers i’r Gymdeithas gymryd yr awenau oddi wrth gylchgrawn Smallholder Magazine yn 2001.”

Mae’r penderfyniad hwn yn nodi pennod newydd gyffrous i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth iddi edrych i’r dyfodol gyda ffocws o’r newydd, gan sicrhau bod ei digwyddiadau yn parhau i arwain y blaen ym maes sioeau amaethyddol yn y DU a thu hwnt, a hyrwyddo ei nodau strategol a’i phrosiectau yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.