Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i geirw, a mwynhau siopa Nadolig, adloniant byw ac arddangosfa dân gwyllt anhygoel yn y Ffair Aeaf eleni!

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru rownd y gornel, ac mae yna ddigonedd i deuluoedd edrych ymlaen ato yn nigwyddiad eleni. Caiff ei chynnal ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr, gan gynnig cyfle gwych i fynd i hwyl yr ŵyl, gyda gweithgareddau Nadoligaidd, siopa, adloniant a bwyd i bobl o bob oed eu mwynhau.

Bydd Siôn Corn yn galw heibio i’r Ffair Aeaf hefyd, gan groesawu plant i’w Groto yn Nhŵr y Cloc, Tŷ Ynys Môn, ger y Bandstand, ar ddau ddiwrnod y digwyddiad.

Bydd dau garw o Black Mountain Reindeer yn ymweld â’r Ffair Aeaf ddydd Mawrth 1 Rhagfyr i ychwanegu at hud y Nadolig. Gall ymwelwyr gwrdd â’r ddau yn y Pentref Ceffylau Trwm a Helgwn rhwng 11.00am a 3.00pm, gan gynnig cyfle arbennig i weld yr anifeiliaid anhygoel hyn yn agos.

Mae’r dydd Llun yn gyfle perffaith i fwynhau ychydig o siopa Nadolig gyda’r hwyr, a bydd Maes y Sioe yn aros ar agor yn hwyrach. Cewch bori trwy ddetholiad eang o anrhegion, crefftau, gemwaith a nwyddau’r cartref, ac rydyn ni wedi cyflwyno mannau siopa newydd eleni gan gynnig hyd yn oed mwy o ddewis i’r rheiny ohonoch sy’n chwilio am anrhegion Nadolig unigryw. Daw’r noson i ben gyda sioe dân gwyllt fendigedig y Ffair Aeaf i gerddoriaeth a thân am 7.00pm, gan gyfuno tân gwyllt a cherddoriaeth i greu arddangosfa anhygoel.

Bydd digon o adloniant dros y ddeuddydd, gyda cherddoriaeth fyw, bandiau pres a chorau lleol yn helpu i greu naws Nadoligaidd ar draws Faes y Sioe.

Ac i’r rheiny sydd wrth eu bodd â’u bwyd, bydd digonedd o ddewis i dynnu dŵr o’r dannedd. Bydd y Neuadd Fwyd enwog dan ei sang â chynnyrch a bwydydd arbenigol o Gymru, gan gynnwys caws, cig, cyffeithiau, danteithion melys a diodydd. Gall ymwelwyr hefyd archwilio pentref bwyd stryd Cymreig Gwledd | Feast, sy’n cynnig detholiad deniadol o fwyd ffres wedi’i baratoi gan amrywiaeth o fasnachwyr. Am restr lawn o arddangoswyr y Neuadd Fwyd a’r pentref bwyd eleni, ewch i wefan CAFC.

Ochr yn ochr â’r holl weithgareddau Nadoligaidd, gall ymwelwyr fwynhau rhaglen arferol y Ffair Aeaf hefyd, sy’n llawn cystadlaethau da byw a cheffylau, gan warantu diwrnod gwych i’r teulu cyfan.

Felly, os ydych chi eisiau cwrdd â Siôn Corn, mwynhau siopa Nadolig, blasu bwyd Cymreig blasus neu fwynhau’r tân gwyllt trawiadol, mae yna ddigon i’w fwynhau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fis Tachwedd eleni.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.

COFRESTRWCH AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Cewch y diweddaraf yn rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau.

Cofrestru