Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield, sef sefydliad sy’n gwobrwyo unigolion â chyfleoedd sy’n newid bywydau, gyda’r nod o ddatblygu arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol ym maes amaethyddiaeth.
Mae holl Ysgolorion Nuffield yn gweithio yn y sector ffermio, bwyd, garddwriaeth neu wledig ac yn ystod eu cyfnod astudio o ddeunaw mis maen nhw’n ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn maes o’u diddordeb nhw. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cael bwrsariaeth i’w annog i deithio am o leiaf wyth wythnos, gyda chyfle i astudio arferion a ddefnyddir dramor a gartref.
Mae CAFC yn falch iawn o noddi ffermwr o Aberhonddu, Tudor Roderick, fel Ysgolor Nuffield Sioe Frenhinol Cymru 2026. Y testun y mae Tudor wedi dewis ei astudio yw, ‘A allai systemau da byw â mewnbwn isel sy’n seiliedig ar borthiant fod yn allweddol i gydnerthedd busnesau mewn hinsawdd sy’n newid?”.
Ar fferm deuluol Tudor ym Mannau Brycheiniog, maen nhw’n profi fwyfwy effeithiau patrymau tywydd mwy eithafol ac anrhagweladwy. Mae hafau hir, poeth a sych wedi rhwystro twf glaswellt yn sylweddol, a gaeafau cynyddol wlyb yn byrhau’r tymor pori ac yn gyrru costau’r gaeaf i fyny. Mae’r amodau hyn yn creu heriau sylweddol wrth geisio cynnal system dda byw â mewnbwn isel sy’n seiliedig ar borthiant.
Trwy daith astudio Tudor, ei nod yw ymchwilio i’r ffordd y mae ffermwyr mewn rhanbarthau eraill yn addasu eu systemau yn llwyddiannus mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r defnydd o gnydau porthiant sy’n goddef sychder yn well, gweithredu strategaethau pori addasol, a gwella geneteg da byw fel eu bod yn fwy gwydn.
Y prif amcan yw dod o hyd i atebion ymarferol, cost-effeithiol y gellir eu gweithredu ar raddfa fwy ac y gellir eu treialu gartref ar Fferm Newton a’u rhannu gyda’r gymuned ffermio ehangach. Trwy ddysgu gan eraill sy’n mynd i’r afael â materion tebyg yn barod, mae Tudor yn gobeithio dod â mewnwelediadau yn ôl a fydd yn helpu diogelu systemau da byw sy’n seiliedig ar borthiant yn y dyfodol yn y DU.
Ag yntau wedi tyfu i fyny ar fferm bîff a defaid y teulu ym Mannau Brycheiniog, datblygodd Tudor gariad cynnar at amaethyddiaeth, ac aeth ar drywydd hynny ar lefel academaidd trwy fynd i Goleg Hartpury ac yn ddiweddarach i Brifysgol Aberystwyth. Yn 2023, enillodd Tudor ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru, gan deithio i Awstralia i edrych ar fridio defaid er mwyn sicrhau gwell ymwrthedd i lyngyr, a gwelodd â’i lygaid ei hun bŵer cofnodi perfformiad i yrru gwelliant genetig yn y diwydiant defaid.
Y tu allan i ffermio, mae Tudor yn mwynhau rhedeg ar lwybrau a thraws gwlad ac, yn ddiweddar, mae wedi cwblhau’r ras 22 milltir Dyn yn erbyn Ceffyl yn Llanwrtyd, Canolbarth Cymru.
Mae Ysgoloriaeth Nuffield yn cynnig cyfle deunaw mis i bobl flaengar yn y diwydiant bwyd a ffermio i astudio maes allweddol o newid neu ddatblygiad yn y gadwyn fwyd, gan arwain at adroddiad sydd wedi’i gynllunio i helpu ffermwyr Prydain i archwilio syniadau newydd ar gyfer eu busnesau. Wrth gefnogi hyn, mae ymrwymiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i annog addysg ac ymchwil yn y sectorau amaethyddiaeth a tir yng Nghymru yn parhau, ac mae buddsoddi’n barhaus mewn pobl ifanc yn rhan greiddiol o’i hamcanion elusennol a’i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Cyflwynir tystysgrif i Tudor Roderick yn ystod seremoni agoriadol swyddogol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 24 Tachwedd.
Am ragor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.