Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Mae syniad gan Sir Nawdd 2025 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi sbarduno Cerdd Groeso arbennig, sy’n dathlu celf a diwylliant Cymru a’r Gymraeg.
Trwy gysylltiadau cadeirydd y sir, Kathryn Ellis, comisiynwyd y Prifardd enwog Myrddin ap Dafydd i ysgrifennu Cerdd Groeso yn y Gymraeg, i nodi ymddangosiad y sir yn Llanelwedd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2025.
Dadorchuddiwyd y Gerdd Groeso yn Lansiad Swyddogol y Sioe yn Neuadd Pritchard Jones, Prifysgol Bangor, yn gynharach eleni, lle cafodd anadl einioes ar ffurf ddigidol gyda Myrddin ap Dafydd ei hun yn ei hadrodd. Ennyd deimladwy i bawb a oedd yn bresennol.
Ers hynny, mae Pwyllgor Apêl Dwyfor wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod y Gerdd Groeso yn parhau i ysbrydoli ac i gyfrannu at achosion teilwng. Eu gweledigaeth oedd cynnwys y gwaith fel eitem arbennig yn yr Ocsiwn Addewidion, sef rhan o “Y Wledd” – noson o ddathlu a chymdeithasu yng nghefn gwlad i’w chynnal ym Mron Eifion, Cricieth, ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025, gyda’r elw’n mynd i Gronfa Apêl y Sioe Frenhinol a Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd.
I nodi’r achlysur, cyhoeddwyd y gerdd ar ffurf darlun fel gwaith ysgrifenedig gwreiddiol gan Myrddin ap Dafydd, gyda gwaith celf hardd gan yr artist lleol ifanc Cian Owen, o Hendre Bach, Rhosfawr.
Ag yntau wedi graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd lle astudiodd Celfyddyd Gain, mae Cian yn rhan o sefydliad Oriel Gelf Lle yn Rhosfawr, y mae’n ei rhedeg gyda’i fam, yr artist Carys Bryn, a’i chwaer. Mae ei ddarluniau nodedig a dychmygus yn aml yn cynnwys ei “bobl bach pren” nodweddiadol, sy’n ychwanegu cyfaredd a dyfnder at ei ddyluniadau – partner gweledol perffaith i waith barddonol Myrddin.
Gellir gweld gwaith celf Cian ar Instagram – @CianParryOwen, @lleartcarysbryn, neu drwy ymweld ag Oriel Gelf Lle yn Rhosfawr.
Bydd darlun y Gerdd Groeso yn cael ei werthu yn yr Ocsiwn Addewidion ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025, ac mae croeso i bobl gynnig amdano ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth neu i gynnig, cysylltwch ag Alaw Evans ar 07331 04378 neu drwy e-bost – [email protected]