Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi mai Eiry Williams yw enillydd ei Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2026, sef gwobr flynyddol wedi’i chynllunio i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y diwydiant amaethyddiaeth.
Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnig bwrsariaeth i alluogi rhywun ifanc i fynd i Gynhadledd Ffermio Rhydychen, sef cynhadledd bwysig a gynhelir ddechrau mis Ionawr bob blwyddyn. I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 21 a 35 oed, wedi byw yn yr ardaloedd a wasanaethir gan Bwyllgorau Cynghori Sirol CAFC ers o leiaf bum mlynedd, ac yn gweithio mewn diwydiant sy’n gysylltiedig â’r tir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cael gwahoddiad i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr y Gymdeithas 2026, yn edrych yn ôl dros eu profiad.
Bydd Cynhadledd 2026, ar y thema “Meithrin Cydnerthedd”, yn cael ei chynnal rhwng 7 a 9 Ionawr 2026. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gydnabod ers amser maith fel un o lwyfannau mwyaf dylanwadol y diwydiant, ac mae’n dod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr a gweithwyr proffesiynol o gefn gwlad at ei gilydd i drafod materion allweddol ac i archwilio dyfodol amaethyddiaeth. Bydd rhaglen y flwyddyn nesaf yn dathlu gallu’r sector i addasu, gan dynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Bydd hefyd yn myfyrio ar y gwaddol a drosglwyddwyd dros flynyddoedd o arloesi a stiwardiaeth.
Enwebodd y Pwyllgorau Cynghori Sirol yr ymgeiswyr canlynol, a gafodd gyfweliad o flaen panel o feirniaid a oedd yn cynnwys Mr Jonathan H. Davies (cynrychiolydd y Gymdeithas) a Dr Cennydd Jones (enillydd bwrsariaeth 2025):
Canmolodd y beirniaid bob un o’r ymgeiswyr am eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad a’u hangerdd dros ddyfodol y diwydiant amaethyddiaeth, gan nodi safon drawiadol y rheiny a gafodd gyfweliad a’r optimistiaeth galonogol a rannwyd am y ffordd wledig o fyw.
Wedi dwys ystyried, cytunodd y panel y dylid dyfarnu Bwrsariaeth Cynhadledd Ffermio Rhydychen 2026 i Eiry Wiliams o Langwyryfon, Aberystwyth, Ceredigion.
Ar hyn o bryd mae Eiry yn gweithio fel Hwylusydd Olyniaeth i Cyswllt Ffermio ac mae ganddi radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Biowyddorau Milfeddygol o Brifysgol Aberystwyth. Yn flaenorol, mae hi wedi gweithio fel ymchwilydd i Brifysgol Aberystwyth a Hybu Cig Cymru, ac wedi cwblhau PhD am strategaethau ar gyfer rheoli nematodau yn ystod y cyfnod peripartwraidd mewn mamogiaid . Â hithau’n aelod ymroddgar o CFfI Llangwyryfon, mae Eiry wedi ennill nifer o wobrau ar lefel sirol a chenedlaethol am siarad cyhoeddus a beirniadu stoc, a chafodd ei henwi’n Uwch Aelod y Flwyddyn yn 2025.
Mae’r Gymdeithas yn llongyfarch Eiry ar ei chyflawniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen 2026.
Cyflwynir y wobr i Eiry ddydd Llun 24 Tachwedd yn ystod seremoni agoriadol y Ffair Aeaf, a gynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.
Am ragor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.