Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Yn dilyn marwolaeth drist Aled Woosnam, Cyfarwyddwr Arena SV, a sylfaenydd cwmni Severn Valley Events o Bowys a oedd yn gweithredu’r Arena, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi cyhoeddi y bydd yn gyfrifol am reoli’r safle ar gyfer Sioe 2026.
Wrth dalu teyrnged i Aled Woosnam, dywedodd Prif Weithredwr CAFC; “Bu Aled yn ran allweddol o sefydlu Arena SV yn 2023. Drwy wneud hynny, sicrhaodd fod gan ymwelwyr â’r Sioe Frenhinol faes gwersylla a man adloniant diogel a chroesawgar. Bydd colled fawr ar ôl Aled, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i’w deulu a’i ffrindiau.”
Yn dilyn marwolaeth Mr. Woosnam, a phenderfyniad Severn Valley Events i gau Arena SV, mae CAFC wedi cydnabod y bydd angen pobl ifanc a theuluoedd sy’n ymweld â’r sioe am leoliad gwersylla diogel, croesawgar a phleserus, yn parhau.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas, Aled Rhys Jones: “Rydym felly, yn cyhoeddi heddiw ein bod wedi cytuno â’r teulu Kinsey – perchnogion Court Farm a lleoliad Arena SV – y byddwn ni’n rheoli’r ardal hon ar gyfer Sioe 2026.”
Ychwanegodd Mr. Jones: “Byddwn yn cyd-weithio gyda phartneriaid profiadol i ddarparu’r maes gwersylla a’r adloniant.”
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru hefyd wedi cadarnhau’r bwriad i anrhydeddu archebion pawb wnaeth gofrestru a thalu am lefydd gwersylla cyn y cyhoeddiad am gau Arena SV.
Dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf, bydd pawb sydd eisoes wedi archebu lle yn derbyn mwy o wybodaeth. Bydd manylion am sut i wneud archebion newydd ar gyfer sioe 2026 hefyd yn cael eu rhannu. Tan hynny, dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau lle i garafan neu babell gofrestru eu diddordeb yma: Datgan Diddordeb | Register Your Interest – Fill in form.
Wrth gloi, dywedodd Aled Rhys Jones: “Mae’r datblygiad hwn wedi dod i fodolaeth o ganlyniad i amgylchiadau trasig. Ein bwriad nawr yw diogelu’r dyfodol drwy adeiladu ar waith da’r gorffennol.”