Pentref Defaid 'Cynefin' i’w lansio gan GAFC a’r GDdG yn Sioe Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) a’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA/CDdG) yn falch o gyhoeddi eu bod yn cyd-lansio Pentref Defaid Cymreig newydd ac arloesol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Bydd y pentref wedi’i leoli ar safle hen Bafiliwn yr NSA ac yn dathlu pwysigrwydd diwydiant defaid Cymru. Bydd yno stondinau masnach a gweithgareddau addysgol, a’r nod yw arddangos arloesedd ac arfer da i ffermwyr, tra’n cefnogi’r cyhoedd yn ehangach i ddeall mwy am ffermio defaid a’i rôl hanfodol wrth lunio’n tirwedd a’n treftadaeth.

Fel mae’r enw Cynefin yn ei awgrymu, bydd y pentref yn dathlu’r cysylltiad anatod rhwng y tir, ffermio defaid a chymuned.

Dywedodd Prif Weithredwr CAFC, Aled Rhys Jones: “Mae ffermio defaid a’r cenedlaethau o ffermwyr sydd wedi gweithio’r tir wedi siapio tirwedd Cymru. Ry’n wrth ein bodd yn cael cyd-weithio gyda’r NSA i rhoi bywyd i’r cysyniad newydd a chyffrous hwn sy’n dathlu hanes cyfoethog ffermio yng Nghymru.”

“Mae adran y defaid eisoes yn ymestyn dros bron i bedair erw o faes y sioe, felly mae’n amlwg yn rhan bwysig o’r Sioe Fawr. Ry’n ni’n gartref i un o’r casgliadau mwyaf a mwyaf amrywiol o fridiau defaid sy’n bodoli yn unrhyw sioe yn y byd, ac mae’n cystadlaethau cneifio a thrin gwlân ni o’r radd flaenaf. Wrth fodoli ar y cyd â Chanolfan Gneifio Meirion, y neuaddau arddangos a’r cylch defaid bydd y Pentref Defaid newydd yn codi statws y diwydiant ymhellach.”

Yn ôl Phil Stocker, Prif Weithredwr yr NSA “Mae Cynefin yn gysyniad newydd sy’n rhoi cyfle i’r NSA a’r RWAS gyflwyno ffordd ffres o bortreadu ffermio defaid yn y Sioe Frenhinol. Un o’r cyfraniadau mwyaf gwerthfawr y gallwn ni ei wneud i’r diwydiant yw chwarae’n rhan i egluro ac arddangos ffermio defaid i’r cyhoedd, a dathlu’r arloesedd a thechnoleg wych sy’n cael ei ddefnyddio.

Mae gennym ddiwydiant arbennig sy’n llawer mwy blaengar nag y mae llawer yn sylweddoli ac mae’n dull o gynhyrchu bwyd a ffibr yn gweithio’n dda ar y cyd â rheoli’n tirwedd, darparu ar gyfer natur, a chynnal cymunedau ac economïau gwledig. Os gallwn ni wneud mwy i amlygu hyn yna bydd ein partneriaeth newydd gyda Sioe Frenhinol Cymru yn un werth chweil.”

Bydd Bar a Bwyty poblogaidd yr NSA hefyd yn rhan o bentref Cynefin, a bydd ardal awyr agored newydd yn cynnig lle croesawgar i ffermwyr ac ymwelwyr gyfarfod ac ymlacio.

Mae gwahoddiad nawr i stondinau masnach a sefydliadau sy’n ymwneud â defaid ac am fod yn rhan o Cynefin, Pentref Defaid Cymru, i fynegi eu diddordeb. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru 2026 yw 20-23 Gorffennaf. Mae’n digwydd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt. Prynwch docynnau.