Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi y bydd yn croesawu Cynhadledd ASAO (Association of Show and Agricultural Organisations) Cymru eleni ddydd Gwener, 24 Ebrill 2026. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Trefaldwyn ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.

Bydd y gynhadledd undydd yn dod â’r holl gynrychiolwyr sioeau amaethyddol o bob cwr o Gymru at ei gilydd i drafod datblygiadau allweddol yn y diwydiant ac i rannu arfer gorau. Eleni bydd y meysydd sy’n cael sylw yn cynnwys pwysigrwydd nawdd o safbwynt trefnwyr digwyddiadau a noddwyr, trafodaethau am fewnwelediadau ac argymhellion marchnata cyfredol, a’r diweddaraf gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Cymru ac EID Cymru.

Mae Cynhadledd Sioeau Amaethyddol Cymru yn gyfle gwych i aelodau’r gymdeithas gwrdd wyneb yn wyneb a siarad am y sioeau amaethyddol sydd ar droed yng Nghymru. Bydd amrywiaeth o drefnwyr sioeau a digwyddiadau o bob cwr o Gymru yn bresennol y ogystal â siaradwyr dylanwadol, ac felly mae’r diwrnod yn addo rhannu gwybodaeth a chefnogi’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru.

Rhaglen


9.30 – 10.00 Arrival and registration

10.00 – 10.05 Welcome – Aled Rhys Jones (RWAS Chief Executive)

10.05 – 10.10 Meet the Sponsors – Chaired by: Mared Rand Jones (Wales YFC CEO)

10.10 – 10.50 More Than A Show – Delme Harris (Pembrokeshire County Show) Chaired By: Mared Rand Jones (Wales YFC CEO)

10.50 – 11.30 ASAO Update – Jenna Payne (ASAO Chief Executive)

11.30 – 11.45 Break

12:00 – 12:30 APHA And EID Cymru Update – APHA Representatives, Shan Evans (EID Cymru) Chaired By: Geraint James (RWAS Board Member)

12.30 -13.30 Lunch and Networking / Performance from Rhian Hughes

1:30 – 2:15 Marketing and Sponsorship Panel – Vicki Spencer-Francis (Cowshed Communication, CEO & Founder), Lois Morris (RWAS Sponsorship Officer) & Martin Lynos (HSBC) Chaired by: Aled Rhys Jones (RWAS Chief Executive)

2:15 – 3:00 Open Forum and Discussions – Chaired by: Geraint James (RWAS Board Member)

3:00 Closing Remarks – Aled Rhys Jones (RWAS Chief Executive)

 


Register your attendance

Cofrestrwch eich presenoldeb https://rwas.ticketsrv.co.uk/tickets/ASAORegionalConferenceWales

Gall cynrychiolwyr sioeau amaethyddol sicrhau eu lle yn y gynhadledd am ddim trwy fynd i: https://rwas.ticketsrv.co.uk/tickets/ASAORegionalConferenceWales

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.