Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi’r panel uchel ei barch o feirniaid ceffylau a da byw ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2026.

Mae’r Sioe yn un o’r prif ddigwyddiadau amaethyddol yn Ewrop, ac mae’n cynnal ei thraddodiad o ragoriaeth yn ei chystadlaethau, gan ddenu cystadleuwyr a selogion gorau’r maes o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Cynhelir Sioe 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, o ddydd Llun 20 hyd ddydd Iau 23 Gorffennaf. Disgwylir i’r digwyddiad groesawu miloedd o ymwelwyr a chystadleuwyr, pob un yn awyddus i brofi’r gorau o amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.

Mae’r panel beirniaid eleni yn dod â grŵp nodedig o arbenigwyr at ei gilydd, a phob un yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad. Bydd eu harbenigedd yn helpu i sicrhau y cynhelir y safonau cystadlu uchaf ar draws pob dosbarth, o Brif Bencampwriaethau i Drinwyr Ifainc.

Bydd atodlenni’r cystadlaethau ar gael ar wefan CAFC o 1 Ebrill. Mae’r dyddiadau cofrestru fel a ganlyn: gallwch gofrestru ar gyfer cystadlaethau’r Ceffylau o 15 Ebrill, y Gwartheg, Moch a’r Geifr o 22 Ebrill, a’r Defaid o 29 Ebrill. Mae’r ffenestr gofrestru yn cau ddydd Mercher 20 Mai.

Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau wrth i ni gyfrif i lawr at flwyddyn anhygoel arall yn y Sioe Frenhinol.

Mae’r rhestr lawn o feirniaid ceffylau a da byw ar wefan CAFC: https://rwas.wales/royal-welsh/competitions-royal-welsh/

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.