Am y tro cyntaf ers canrif a mwy, mae porthmyn wedi ymweld â’r Gelli.
Fe wnaeth y criw eu hymddangosiad arbennig yn nigwyddiad lansio Sioe Frenhinol Cymru 2026 a oedd yn cael ei gynnal yng Ngŵyl y Gelli.
Troediodd y porthmyn lleol dros lwybrau eu cyndeidiau er mwyn nodi bod pentref defaid newydd ‘Cynefin’ yn cael ei ychwanegu i’r arlwy yn Llanelwedd eleni.
Dyma’r tro cyntaf i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Gŵyl y Gelli gydweithio. Mae’n amserol, gan mai Brycheiniog yw sir nawdd 2026.
Dywedodd Llywydd y Sioe, Gethin Havard; “Roedd gweld y porthmyn a’u defaid yn troedio’r hen lwybrau eto yn olygfa i’w thrysori.”
Ychwanegodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr y Gymdeithas; “Cafodd y dorf o 250 o’dd yn bresenol yn y digwyddiad eu swyno gan y porthmyn a’u praidd. Dwi’n siŵr y cawn nhw a phob ymwelydd arall â’r Sioe, eu cyfareddi llawn cymaint gyda’r holl ddatblygiadau newydd fydd i’w gweld ar ein maes eleni.”
Am fod CFfI Cymru yn dathlu cyrraedd 90oed eleni, perfformiodd ensemble o aelodau, dan arweiniad y Llysgennad Teleri Haf Thomas, fersiwn o anthem y Ffederasiwn ‘Bydd Wych’ yn y lawnsiad hefyd.
A gyda 55 diwrnod i fynd tan Sioe Frenhinol Cymru 2026, cyhoeddwyd hefyd mai’r Uwchgapten Andy Butcher MBE fydd yn agor y sioe yn swyddogol eleni.
Am luniau/fideo o’r digwyddiad, cysylltwch â: [email protected]