Mae’n flin iawn gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi na fydd Y King’s Troop Royal Horse Artillery yn perfformio yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Yn dilyn marwolaeth drasig yr Is-fagnelwr Ciara Sullivan, mae’r Gymdeithas wedi rhyddhau Y King’s Troop Royal Horse Artillery o’u hymrwymiad i berfformio yn y Sioe eleni.
Mae’r Gymdeithas yn anfon ei chydymdeimlad dwysaf a mwyaf diffuant at deulu’r Is-fagnelwr Ciara Sullivan, ei ffrindiau, a’i chyd-filwyr i gyd, yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt hwn.
Er ein bod yn siomedig na fydd Y King’s Troop Royal Horse Artillery yn ymuno â ni eleni, llwyr ddeallwn yr amgylchiadau ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl i Llanelwedd yn y dyfodol agos iawn.
Serch y newid hwn i’r rhaglen, bydd Sioe Frenhinol Cymru 2026 yn cyflwyno cyfres lawn a chyffrous o atyniadau yn y brif cylch, gan gynnwys Sioe Styntiau Beiciau Cwad Paul Hannam, Grand National y Merlod Shetland, Tîm Parasiwt Ffalconiaid yr Awyrlu Brenhinol ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher (os yw’r tywydd yn caniatáu), Hawkeye Falconry UK, Meirion Owen a’i Gwac Pac, Band Catrawd y Cymry Brenhinol, ac arddangosfa arbennig gan CFfI Cymru i ddathlu 90 mlynedd, ar ddydd Llun y Sioe. Cyflwynir y rhain ochr yn ochr ag amserlen lawn o gystadlaethau da byw a cheffylau sydd gyda’r gorau yn y byd.
Gydag ychydig wythnosau yn unig i fynd, edrychwn ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr i Lanelwedd unwaith eto ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Sioe ragorol.