Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) gyhoeddi y bydd Côr Ffermwyr Hawkstone yn perfformio yn y Brif Gylch ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru 2026, sef dydd Llun 20 Gorffennaf.
Ffurfiwyd Côr Ffermwyr Hawkstone gan Jeremy Clarkson a daeth at ei gilydd yn wreiddiol yn rhan o ymgyrch hysbysebu ar gyfer ei fusnes bragu yn y Cotswolds. Ers hynny, mae’r côr wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy, ac wedi defnyddio’i lwyfan i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.
Yn ddiweddar, daliodd y grŵp galonnau’r genedl trwy ennill rownd derfynol Britain’s Got Talent 2026; y côr cyntaf erioed i gipio’r teitl.
Bydd y côr yn perfformio brynhawn dydd Llun 20 Gorffennaf, gan ddiddanu cynulleidfa orlawn o filoedd o ymwelwyr y Sioe yn yr hyn sy’n argoeli i fod yn un o eiliadau mwyaf cofiadwy wythnos y Sioe.
Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Côr Ffermwyr Hawkstone i’r Sioe Frenhinol. Bydd eu perfformiad ar y dydd Llun yn y Brif Gylch, o flaen miloedd o ymwelwyr, yn achlysur gwirioneddol arbennig.
“Dyma fydd eu perfformiad swyddogol cyntaf yng Nghymru ers ennill rownd derfynol Britain’s Got Talent, ac rydyn ni’n gyffrous dros ben i rannu’r foment honno gyda’n cynulleidfa. Mae llawer o aelodau’r côr hefyd yn aelodau o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac mae ganddynt gysylltiad cryf â’r Sioe, ac mae eu hymddangosiad yma hyd yn oed yn fwy ystyrlon oherwydd hynny.”
Meddai prif unawdydd benywaidd y côr, Rosie Jones, ffermwr bîff a defaid o Ganolbarth Cymru: “Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael gwahoddiad i ganu yn Sioe Frenhinol Cymru 2026. Mae’r daith hudolus hon yn dal i dyfu, ond y peth mwyaf i ddod ohoni yw’r gymuned rydyn ni wedi’i chreu o fewn y côr a thu hwnt.
Mewn cyfnod o galedi, ansicrwydd ac unigrwydd, mae’r côr wedi dod yn lle i gysylltu, cefnogi a deall. Os yw ein taith yn ysbrydoli eraill neu’n helpu hyd yn oed un unigolyn, yna rydyn ni’n falch dros ben o hynny.
Diolch am roi’r cyfle i ni barhau i ledaenu ein neges bositif o obaith ar draws y gymuned ffermio ac amaethyddol, a diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ar hyd y daith. Fydden ni ddim yma hebddoch chi.”
Mae Sioe Frenhinol Cymru, a gynhelir bob blwyddyn yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, yn un o brif ddigwyddiadau amaethyddol Ewrop, ac yn dathlu’r gorau o fyd ffermio, bwyd a bywyd gwledig Cymru.
Cewch fanylion llawn y digwyddiad a gwybodaeth am docynnau ar wefan CAFC.