Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Wrth i’r sbotolau daro’i belydrau ar Frycheiniog fel Sir Nawdd Sioe Frenhinol Cymru 2026, bydd yr Uwchgapten Andrew Butcher MBE yn agor y digwyddiad eleni yn swyddogol ddydd Llun 20 Gorffennaf.
Cynhelir y seremoni agoriadol swyddogol am 10.00am yn Ardal y Cyngor, gan nodi dechrau pedwar diwrnod o ddathlu’r gorau o amaethyddiaeth, bywyd gwledig ac adloniant Cymru.
Mae’r Uwchgapten Butcher yn ddewis addas dros ben yn ystod blwyddyn Brycheiniog fel Sir Nawdd. Trwy ei rôl ar Ystâd Hyfforddi Amddiffyn Pontsenni a’i gysylltiadau hirsefydlog â’r Epynt a’r cymunedau gwledig cyfagos, mae’r Uwchgapten Butcher wedi datblygu cysylltiadau cryf â’r ardal a’i ffordd o fyw.
Cysegrodd yr Uwchgapten Butcher bedwar degawd i wasanaethu Byddin Prydain mewn ffordd nodedig, ar ôl ymuno â Gwarchodlu’r Grenadwyr ym 1986. Yn ystod ei yrfa, bu’n rhan o weithrediadau actif yng Ngogledd Iwerddon, Kosovo, Bosnia, Irac ac Afghanistan, gan ddangos proffesiynoldeb, gwytnwch ac arweinyddiaeth neilltuol yn rhai o amgylcheddau mwyaf heriol y byd.
Ochr yn ochr â’i wasanaeth gweithredol, mae’r Uwchgapten Butcher wedi chwarae rhan amlwg yn llawer o achlysuron seremonïol mwyaf nodedig y DU, gan gynnwys Trooping the Colour, Agoriad Senedd y DU i’r Wladwriaeth a nifer o Ymweliadau Gwladol, gan gynrychioli traddodiadau a dyletswyddau cyhoeddus Gwarchodlu’r Grenadwyr yn falch.
Erbyn hyn mae’r Uwchgapten Butcher yn gwasanaethu yn ei benodiad milwrol olaf fel Uwch-swyddog Diogelwch Hyfforddiant ar Ystâd Hyfforddi Amddiffyn Pontsenni, ac yn gyfrifol am oruchwylio’r defnydd diogel ac effeithiol o’r ardal hyfforddi 31,000 erw. Ag yntau wedi’i drwytho yn hanes a diwylliant cyfoethog yr Ystâd, mae’n gweithio’n agos gyda phorwyr lleol a’r gymuned gyfagos – agwedd ar y rôl sy’n arbennig o werthfawr iddo.
Meddai Llywydd CAFC ar gyfer 2026, Gethin W T Havard, FRAgS:
“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf i mi fod Andrew wedi cytuno i agor Sioe Frenhinol Cymru 2026 yn ystod blwyddyn Sir Nawdd Brycheiniog. Fel un o drigolion Cwm Senni ac un a fagwyd ar fferm, mae ganddo ddealltwriaeth go iawn am yr heriau a’r gwerthoedd sy’n diffinio ein ffordd wledig o fyw ac mae’n eu gwerthfawrogi.
“Trwy ei gysylltiad bob-dydd â Meysydd Tanio’r Epynt, mae’n gweithio’n agos gyda phorwyr a phersonél milwrol, ac yn fan cyfarfod rhwng dau sector sy’n hanfodol i lesiant ein cenedl – amaethyddiaeth ac amddiffyn. Mae ei ymrwymiad i’r ddwy gymuned yn ei wneud yn ddewis arbennig o addas a nodedig i agor y Sioe eleni.”
Yn briod â’i wraig Wendy ac yn dad balch i ddwy ferch, mae’r Uwchgapten Butcher yn mwynhau treulio’i amser rhydd yn cerdded ei gŵn Border Terrier, Ted ac Angus, ar yr Epynt ac yn paentio tirluniau gyda phaent olew.
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru rhwng dydd Llun 20 a dydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Cewch fanylion llawn y digwyddiad a gwybodaeth am docynnau ar wefan CAFC.