Pentref defaid newydd "Cynefin" yn addo bod yn atyniad mawr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Mae’r cyffro’n cynyddu ynghylch lansio Cynefin, sef pentref defaid newydd sbon a fydd yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Mae Cynefin yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) a’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (yr NSA), ac mae’n addo bod yn un o atyniadau mawr y Sioe eleni, gan ddathlu rôl hanfodol ffermio defaid yng Nghymru.

Bydd Cynefin ar safle hen Bafiliwn yr NSA, a bydd yn dod â dros 18 o arddangoswyr at ei gilydd, gan gynnwys y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol, cymdeithasau bridiau defaid, cyrff ymchwil fel Sefydliad Morenden, sy’n dod â’u bws addysgu rhyngweithiol, ac amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid a bridio.

Cynlluniwyd Cynefin i apelio at ffermwyr a’r cyhoedd, a bydd yn cynnwys rhaglen amrywiol o weithgareddau addysgiadol, arddangosiadau ac arddangosfeydd. Bydd yn tynnu sylw at arfer gorau ac arloesi yn y diwydiant ac yn helpu ymwelwyr i ddeall ffermio defaid yn well ac i  werthfawrogi ei rôl hanfodol yn nhirwedd Cymru a’i threftadaeth.

Un o brif atyniadau’r pentref fydd Cystadleuaeth Cnu CAFC, a gynhelir mewn partneriaeth â British Wool, sydd wedi torri record eleni gan dderbyn mwy na 100 o gnu.

A heb anghofio’r rheiny sydd wrth eu bodd â’u bwyd – bydd neuadd fwyd fach ac ardal eistedd newydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr flasu cig oen Cymreig o’r ansawdd uchaf. Bydd y cig oen yn cael ei gyflenwi gan Lywydd CAFC eleni, Mr Gethin Havard FRAgS, a’i deulu.

I ddathlu Brycheiniog fel sir nawdd 2026, bydd stondin arbennig yn arddangos ei bridiau brodorol, gan gynnwys Defaid Penfrith Beulah, Cheviot Bryniau Brycheiniog, Defaid Penfrith yr Epynt a Defaid Mynydd Cymreig Talybont.

Gall ymwelwyr archwilio’r amrywiaeth gynyddol o gynhyrchion defaid, gan gynnwys stondin hufen iâ a chynhyrchion llaeth dafad, a gweld nyddwyr gwlân wrth eu gwaith. Bydd ardal fanwerthu hefyd sy’n gwerthu cynhyrchion gwlân o’r radd flaenaf.

Wrth galon Cynefin mae’r cysylltiad dwfn rhwng y tir, da byw a’r gymuned.

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr CAFC: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at lansio Cynefin yn y Sioe eleni. Bydd yn dathlu popeth sy’n ymwneud â defaid.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud ymdrech ymwybodol i gyflwyno pentrefi ac ardaloedd newydd i Faes y Sioe, gan sicrhau ein bod yn parhau i esblygu, addasu ac ychwanegu elfennau ffres, cyffrous at yr hyn sy’n sefydliad cenedlaethol annwyl dros ben. Mae Cynefin yn ychwanegiad gwych, ac yn dathlu pwysigrwydd ffermio defaid yng Nghymru gan gynnig rhywbeth difyr ac addysgiadol ar gyfer ein hymwelwyr i gyd.”

I ychwanegu at yr ymdeimlad o achlysur, bydd cawr o gerflun trawiadol o hwrdd mynydd Cymreig, wedi’i wneud â llaw, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y lansiad, yn croesawu ymwelwyr i’r pentref.

Bydd yr NSA hefyd yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau a seminarau difyr trwy gydol yr wythnos, a bydd y Bar NSA sydd wastod yn boblogaidd yn aros yn ei leoliad arferol, gan sicrhau digon o fwrlwm ac awyrgylch difyr.

Meddai Phil Stocker, Prif Weithredwr yr NSA:

“Bydd y rheiny sy’n ymweld â’r Sioe yn sylwi bod adeilad yr NSA wedi’i ddatgymalu erbyn hyn, ac mae hynny’n arwydd amlwg o ddiwedd cyfnod sydd wedi bod yn bwysig i lawer o bobl yn y diwydiant defaid. Ond, wrth i un drws gau, mae un arall yn agor ac mae hwn yn gyfle i ni edrych o’r newydd ar yr ardal gyfan, a chwarae mwy o ran wrth fynegi amrywiaeth ein diwydiant, a’i fanteision, i gynulleidfa ehangach ac i’r cyhoedd. Rydyn ni’n falch dros ben o weithio gyda CAFC ar yr ymagwedd ffres hon.”

Bydd stondin yr NSA yn cynnal cyfres o sgyrsiau a thrafodaethau anffurfiol am amrywiaeth o faterion y dydd, gan gynnwys newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth poeni da byw, gyda mewnbwn gan Dîmau Troseddau Gwledig lleol, defnyddio gwlân mewn ffyrdd arloesol, effaith y tanau gwyllt diweddar, a gwaith cadwraeth hanfodol i ddiogelu’r gylfinir yng Nghymru. Bydd digon i ddifyrru ymwelwyr ifancach hefyd, gydag amrywiaeth o weithgareddau i blant ar gael trwy gydol y digwyddiad.

Bydd Cynefin yn cael ei agor yn swyddogol am 11:30am ar ddiwrnod cyntaf y Sioe gan ddau o hoelion wyth y diwydiant defaid yng Nghymru; Mr Alun Evans CBE FRAgS a Mrs Margaret Dalton OBE FRAgS.

Hoffai CAFC ddiolch i’r NSA, yn ogystal â’r holl arddangoswyr, noddwyr a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu i sicrhau bod y fenter newydd a chyffrous hon yn cael anadl einioes.

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2026 o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.