Cyhoeddwyd bod Sioe Frenhinol Cymru 2026 ar agor yn swyddogol ddoe (ddydd Llun 20 Gorffennaf), wrth i filoedd o ymwelwyr ymgynnull yn Llanelwedd i ddechrau pedwar diwrnod o ddathlu’r gorau o amaethyddiaeth, bwyd, cefn gwlad a bywyd gwledig Cymru.

Agorodd yr Uwchgapten Andrew Butcher MBE, Uwch-swyddog Diogelwch Hyfforddiant yng Ngwersyll Hyfforddi Amddiffyn Pontsenni, y Sioe yn swyddogol eleni yn ystod y Seremoni Agoriadol draddodiadol, ochr yn ochr â Chadeirydd Cyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Nicola Davies, y Llywydd Gethin Havard a gwesteion a wahoddwyd o bob rhan o’r diwydiant amaethyddol, y llywodraeth a sefydliadau gwledig. Yn ystod y seremoni hefyd croesawyd ffigurau gwleidyddol uwch o Senedd Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, sydd newydd gael ei ethol, gan adlewyrchu statws Sioe Frenhinol Cymru fel un o ddigwyddiadau blynyddol pwysicaf y genedl.

Wrth groesawu gwesteion i’r seremoni, disgrifiodd Nicola Davies Sioe Frenhinol Cymru fel “achlysur cenedlaethol pwysig” ac “un o’r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop”, gan dynnu sylw at ei rôl o arddangos “y gorau o Gymru” trwy ei bwyd, ei ffermio, ei diwylliant, ei hiaith a’i harloesi.

Eleni yw’r pumed tro i Frycheiniog fod yn Sir Nawdd ar gyfer y Gymdeithas, wedi iddi gael yr anrhydedd ym 1964, 1980, 1997 a 2012. Yn ystod y seremoni, diolchwyd yn arbennig i’r Llywydd Gethin Havard a’i deulu, Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Sirol Rob Powell, yr Ysgrifennydd Anrhydeddus Shelley Hughes, y Llysgennad Teleri Haf Thomas a’r gwirfoddolwyr niferus y mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi helpu i sicrhau bod blwyddyn Brycheiniog hyd yn hyn wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Rhoddwyd cydnabyddiaeth hefyd i’r Digwyddiad Tir Glas llwyddiannus yng Nghwmbrynich fis diwethaf, a gynhaliwyd gan y teulu Havard, a oedd yn sicr yn un o uchafbwyntiau Blwyddyn Nawdd y sir.

Yn ei anerchiad, canmolodd yr Uwchgapten Andrew Butcher nerth amaethyddiaeth yng Nghymru a’r cymunedau gwledig sy’n sail iddi.

“Mewn byd sy’n newid yn gyflym, dydy pwysigrwydd amaethyddiaeth erioed wedi bod yn gliriach. Mae’n greiddiol i’n heconomi, i’n hamgylchedd, ac i’n sicrwydd bwyd. Ond y tu hwnt i hynny i gyd, mae’n ganolog i’n hunaniaeth.

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn atgof pwerus o’r gwirionedd hwnnw. Mae’n arddangos rhagoriaeth, yn annog arloesi, ac yn cryfhau’r cysylltiadau rhyngom ni. Mae’n dod â thref a gwlad ynghyd, gan gynnig lle i fagu dealltwriaeth a rhywle i ddathlu traddodiadau a’u rhannu.”

Talwyd teyrnged arbennig hefyd i deuluoedd yr Epynt, a gafodd eu symud o’u cartrefi ym 1940 i wneud lle i faes hyfforddi milwrol. Cofiwyd am eu haberth, a hynny mewn cyfnod o angen ar draws y wlad, gyda diolchgarwch a pharch.

Yna, cyhoeddodd yr Uwchgapten Butcher fod Sioe Frenhinol Cymru 2026 ar agor yn swyddogol, i sain ffanffer gan Fand Catrodol y Cymry Brenhinol.

Ymhlith prif uchafbwyntiau’r Sioe eleni mae lansiad Cynefin, y Pentref Defaid Cymreig newydd, a gyflwynir trwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA). Agorwyd y pentref yn swyddogol ar ddiwrnod cyntaf y Sioe gan Mrs Margaret Dalton OBE FRAgS a Mr Alun Evans CBE FRAgS, y ddau yn hyrwyddwyr hirsefydlog ar gyfer y diwydiant defaid yng Nghymru a’r DU.

Mae’r ardal bwrpasol hon yn dathlu’r bobl, y bridiau, y cynhyrchion a’r traddodiadau sydd wedi dylanwadu ar ffermio defaid yng Nghymru, gan arddangos arloesi ac arfer gorau ar draws y sector. Trwy gydol yr wythnos, gall ymwelwyr fwynhau rhaglen amrywiol o arddangosfeydd addysgiadol, arddangosiadau byw, trafodaethau a gweithgareddau rhyngweithiol, gan helpu i ddyfnhau eu dealltwriaeth am rôl hanfodol ffermio defaid yn nhirwedd, economi wledig a threftadaeth Cymru.

Dychwelodd y Pentref Garddwriaeth poblogaidd hefyd gyda rhaglen lawn dop o sgyrsiau arbenigol, arddangosiadau a gweithgareddau ymarferol. Ymunodd cyflwynydd Gardeners’ World ar y BBC, Adam Frost, â’r diwrnod agoriadol fel beirniad gwadd arbennig ar gyfer y Gystadleuaeth Gardd Arddangos Ficro, cyn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag ymwelwyr.

Hefyd ar y Maes, dechreuodd rhaglen y Brif Gylch gyda rhaglen lawn dop o adloniant, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf Grand National y Merlod Shetland yn Sioe Frenhinol Cymru, dychweliad Sioe Styntiau Beiciau Cwad cyffrous Paul Hannam ac arddangosiadau anhygoel gan Hawkeye Falconry a’r RAF Falcons. Fe fu’r ymwelwyr hefyd yn mwynhau perfformiad arbennig gan enillwyr Britain’s , Côr Ffermwyr Hawkstone ac arddangosfa liwgar i ddathlu 90 mlynedd ers sefydlu’r CFfI.

Gyda thri diwrnod o gystadlaethau da byw, siopa, bwyd a diod, atyniadau cefn gwlad ac adloniant i ddod o hyd, roedd y diwrnod agoriadol yn ddechrau ar Sioe Frenhinol gofiadwy arall i ddathlu’r gorau o fyd amaethyddiaeth a bywyd gwledig Cymru.

Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.cafc.cymru

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.