Datgelwyd enillydd Gwobr Goffa uchel ei bri Syr Bryner Jones ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru 2026 (ddydd Llun 20 Gorffennaf), a Mr Brian Davies FRAgS, Garthbrengy, Brycheiniog a gafodd anrhydedd uchaf y Gymdeithas.
Cyflwynir Gwobr Goffa Syr Bryner Jones yn flynyddol gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae’n cydnabod unigolion sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o gyflawniad o fewn sector penodol yn y diwydiant amaethyddol. Mae’r wobr eleni yn dathlu unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol at lwyddiant sioe amaethyddol leol neu ranbarthol yng Nghymru.
Roedd y tri a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, a’u teuluoedd, wedi ymgynnull ar gyfer y cyhoeddiad, a datgelodd Llywydd y Gymdeithas, Gethin Havard, mai Mr Davies oedd derbynnydd y wobr ar gyfer 2026.
Mae Brian Davies wedi cysegru 59 mlynedd o wasanaeth i Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, gan helpu i gynnal un o sioeau amaethyddol hynaf y DU. Yn gyn-Gadeirydd, Is-gadeirydd a Llywydd, mae wedi chwarae rhan ganolog wrth annog pobl ifanc a theuluoedd lleol i gymryd rhan, gan helpu i sicrhau dyfodol hirdymor Sioe Sir Aberhonddu.
Wrth gefnogi eu penderfyniad, meddai’r beirniaid Mr Harry Fetherstonhaugh OBE FRAgS a Mrs Susan Jones FRAgS:
“Rydym yn cytuno’n unfrydol fod yr enillydd yn arddangos y safonau uchaf o ran arweinyddiaeth, ymrwymiad ac ymroddiad, ac mae wedi gadael gwaddol parhaol a fydd o fudd i’r sioe am flynyddoedd i ddod. Enillydd cwbl haeddiannol ar gyfer y wobr hon.
“Mae cyfraniad Brian yn sicrhau bod Sioe Sir Aberhonddu yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gynhwysol a’i bod yn gallu esblygu mewn byd sy’n newid a thirwedd amaethyddol sy’n newid
.
“Mae ei ddealltwriaeth am y ffordd y mae’r digwyddiad yn gweithio, ynghyd â’i ymrwymiad diwyro i’w wirfoddolwyr a’i allu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, yn drawiadol iawn, a bydd hyn yn helpu i sicrhau dyfodol hirdymor y sioe.”
Cyflwynwyd Tlws Coffa, Medal a Thystysgrif Syr Bryner Jones i Mr Davies yn ystod y Seremoni Wobrwyo ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cydnabod, gyda diolch, y nawdd ar gyfer y Fedal gan Mr Gareth Roberts FRAgS, aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas.
Mae’r wobr yn coffáu Syr Bryner Jones, un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol yn hanes amaethyddiaeth yng Nghymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Dylanwadodd ar gyfeiriad y Gymdeithas am fwy na 50 mlynedd, gan wasanaethu fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe rhwng 1908 a 1910, Cadeirydd y Cyngor o 1944 i 1953 a Llywydd yn 50fed flwyddyn y Gymdeithas ym 1954.
Y tu allan i’r Gymdeithas, roedd Syr Bryner yn Bennaeth ar Adran Amaethyddiaeth yng Ngholeg Aberystwyth a daeth yn un o brif ffigurau addysg amaethyddol Cymru. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd fel Comisiynydd a Chadeirydd Cyngor Amaethyddol Cymru cyn dod yn Ysgrifennydd Cymru ar gyfer y Weinyddiaeth Amaeth. Cafodd ei urddo’n farchog ym 1947, ac mae ei waddol yn parhau trwy wobr a gyflwynwyd gyntaf ym 1957.