Roedd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o groesawu Cymdeithas Y Merlod a’r Cobiau Cymreig i Faes y Sioe Frenhinol y penwythnos diwethaf wrth i’r Gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn 125 oed.

Sefydlwyd Cymdeithas Y Merlod a’r Cobiau Cymreig yn 1901. Dyma’r gymdeithas fridiau wreiddiol ar gyfer merlod a chobiau Cymreig ac, erbyn hyn, y gymdeithas fwyaf ym Mhrydain ar gyfer bridiau brodorol, gydag aelodau a sefydliadau cyswllt ar draws y byd. Â hithau’n elusen gofrestredig, mae’r Gymdeithas wedi treulio’r 125 mlynedd ddiwethaf yn cadw bridiau Cymreig, yn eu hyrwyddo ac yn eu gwella.

Yn ystod y digwyddiad dathlu, daeth bridwyr, arddangoswyr a selogion at ei gilydd i ddathlu 125 mlynedd o Gymdeithas Y Merlod a’r Cobiau Cymreig a llwyddiant parhaus y bridiau Cymreig.

Meddai Prif Weithredwr CAFC, Aled Rhys Jones:

“Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi mwynhau perthynas hirsefydlog â Chymdeithas Y Merlod a’r Cobiau Cymreig, ac roeddem yn falch o gynnal y digwyddiadau dathlu 125 mlynedd yma ar Faes y Sioe.
Mae’r

bridiau Cymreig yn rhan bwysig o’n treftadaeth o ran amaethyddiaeth a cheffylau, ac mae CMCC wedi chwarae rhan hanfodol wrth eu cadw a’u hyrwyddo dros y 125 mlynedd ddiwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi’r Gymdeithas a’i haelodau yn y blynyddoedd i ddod.”

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sy’n dychwelyd i Faes y Sioe ar 30 Tachwedd ac 1 Rhagfyr. Mae beirniaid adran y ceffylau bellach wedi’u cadarnhau, a’r rhestr lawn ar gael ar wefan Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn un o brif ddigwyddiadau stoc Ewrop, ac yn dod â da byw o’r radd flaenaf, arddangosfeydd, atyniadau Nadoligaidd a siopa Nadolig at ei gilydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd tocynnau ar werth ym mis Medi.

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

COFRESTRU AR GYFER Y CYLCHLYTHYR

Derbyniwch ddiweddariadau rheolaidd am newyddion, sioeau a digwyddiadau. Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen hon neu llenwch eich manylion isod.