Denodd Pentref Chwaraeon Sioe Frenhinol Cymru dros 23,000 o gyfranogwyr yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Roedd yna gyfle i ymwelwyr roi tro ar bopeth – o ganŵio a beicio i rygbi, hoci, pêl-fasged a sgiliau syrcas.
Cofnodwyd cyfanswm o 23,638 cyfranogiad dros y pedwar diwrnod, wrth i’r Pentref Chwaraeon ddod â sefydliadau chwaraeon, cyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid lleol ynghyd i gynnig gweithgareddau i ymwelwyr o bob oedran a gallu.A total of 23,638 participations were recorded across the four days, as the Sports Village brought together sporting organisations, national governing bodies and local partners to offer activities for visitors of all ages and abilities.
Mae’r Pentref Chwaraeon yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru a Chwaraeon Powys yng Nghyngor Sir Powys, ac yn cynnig cyfle i sefydliadau gyflwyno ymwelwyr i chwaraeon newydd ac annog pobl i fod yn actif.
Roedd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael eleni, gan gynnwys canŵio, padlfyrddio ar droed, caiacio, rygbi, beicio, hoci, pêl-fasged, sboncen, athletau, bowls, pêl-droed, golff, capoeira, bocia a sgiliau syrcas.
Fe fu rhanbarthau rygbi Cymru yn elfen bwysig o’r rhaglen unwaith eto, gyda Rygbi Caerdydd, y Scarlets a’r Dreigiau yn cynnig cyfle i ymwelwyr brofi eu sgiliau. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys Llinell Gais aer Rygbi Caerdydd a theclyn ti ar gyfer cicio, taflu at y targed y Scarlets a chawell basio’r Dreigiau. Roedd carfan merched Undeb Rygbi Cymru hefyd yn bresennol, gyda chwaraewyr o bob rhan o’r rhanbarthau yn ymddangos ar eu stondinau ac yn y cylch yn ystod eu sesiynau penodol.
Cofnododd Hoci Cymru y ffigur cyfranogiad unigol uchaf, gyda 3,245 o bobl yn cymryd rhan yn ei chawell gyflymder, saethu’r targed a gweithgareddau yn y babell. Denodd canŵio 2,956 cyfranogiad, tra bod y ddwy ardal weithgareddau yn y Pentref Chwaraeon yn cofnodi 2,865 gyda’i gilydd.
Ymhlith y gweithgareddau poblogaidd eraill roedd y cyrtiau sboncen symudol a ddarparwyd gan Sboncen Cymru, Pêl-fasged Cymru, Bowls Cymru a chwrs Beicio-Croes a beiciau cydbwysedd Beicio Cymru.
Cafwyd sawl ychwanegiad newydd i’r Pentref Chwaraeon eleni hefyd, gan gynnwys Gwalia United, Capoeira ac Athletau Cymru, ochr yn ochr â Chaban Cymru Undeb Rygbi Cymru, her feicio rithwir y Tour de France a Ras Gyfnewid Wledig Dylan Cymdeithas Adeiladu’r Principality.
Meddai Elin Wozencraft, Prif Stiward y Pentref Chwaraeon:
“Unwaith eto, roedden nhw’n bedwar diwrnod llwyddiannus iawn yn y Pentref Chwaraeon. Roedd nifer y bobl a gymerodd ran ar draws y gweithgareddau gwahanol yn wych, ac roedd yn arbennig o braf gweld cymaint o deuluoedd yn defnyddio’r ardal.
“Gawson ni gyfuniad gwych o chwaraeon a gweithgareddau eleni, gan gynnwys sawl sefydliad newydd ochr yn ochr â’n partneriaid rheolaidd. Mae’r gefnogaeth rydyn ni’n ei chael gan ranbarthau rygbi Cymru yn dal i fod yn rhan fawr o’r hyn y gallwn ei gynnig i ymwelwyr.
“Hon oedd ein degfed flwyddyn yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru a Chwaraeon Powys, ac mae wedi bod yn wych gweld y Pentref Chwaraeon yn datblygu dros y cyfnod hwnnw. Hoffwn hefyd gydnabod gwaith Emyr Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus Gofal Cefn Gwlad, Campau Gwledig a’r Ardal Chwaraeon, y mae ei arweiniad a’i gefnogaeth yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r Pentref Chwaraeon.
“Diolch i’r holl sefydliadau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad eleni yn bosibl.”
Bydd Pentref Chwaraeon Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2027, a gynhelir rhwng dydd Llun 19 a dydd Iau 22 Gorffennaf.