Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2025, prynodd Matty Thomas, cogydd a pherchennog yr Hydd Gwyn yn Llandeilo, ŵyn byw a charcasau y Pencampwr a’r Ail Orau, ochr yn ochr â’r carcas CFfI buddugol, gan ddod â pheth o’r cig oen Cymreig gorau yn syth o’r Ffair Aeaf i’w gwsmeriaid.
Roedd prynu’r cig yn hysbyseb wych i’r busnes, gan ddenu cwsmeriaid o ymhellach i ffwrdd a gwneud llawer o’i gwsmeriaid rheolaidd a’r gymuned leol yn falch ar yr un pryd.
Daw Matty, sy’n 43 oed, o Aberhonddu yn wreiddiol, ond mae nawr yn byw yn Llandeilo, a threuliodd bron y cyfan o’i fywyd gwaith mewn ceginau proffesiynol. Dechreuodd ei yrfa yn 12 oed, yn golchi llestri mewn tafarn leol er mwyn ennill ychydig o arian poced ychwanegol. Yn 15 oed, aeth ymlaen i astudio arlwyo yng Ngholeg Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin ac mae wedi gweithio mewn ceginau byth ers hynny.
Ar ôl cymryd yr awenau yn yr Hydd Gwyn gyda’i bartner, 19 mis yn ôl, mae Matty wedi bod ar genhadaeth i hyrwyddo cyflenwyr lleol a rhoi cynnyrch Cymreig wrth galon y fwydlen.
Mae’n mynd i werthiannau da byw ei hun yn Ffair-fach, Llanymddyfri a Llanybydder i brynu cig oen, ac yn prynu cig eidion yn syth o giât y ffermydd cyfagos, gan gymryd yr amser i ymweld â’r gwartheg ei hun i’w harchwilio. Mae hefyd yn gweithio gyda Cig Oen Caron, y lladd-dy teuluol a’r cigydd yn Nhregaron.
Mae’r pwyslais ar gynhwysion ffres, lleol yn treiddio trwy’r fwydlen, a bwydydd a diodydd o Gymru, gan gynnwys cwrw lleol, yn cael lle amlwg. Mae’r Hydd Gwyn hefyd yn arbenigo mewn bwydydd heb glwten, sy’n arbennig o bwysig i Matty, sy’n coeliag.
I Matty, mae cefnogi amaethyddiaeth Cymru a busnesau lleol yn fwy na’r bwyd ar y plât. Mae’n golygu cryfhau’r economi leol a sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod o ble mae eu bwyd yn dod.
Mae’r Hydd Gwyn wedi parhau i dyfu ers i Matty a’i bartner gymryd yr awenau, ac mae’r dafarn bellach yn gweini hyd at 1,200 o brif brydau bob wythnos, gan gynnwys cinio dydd Sul poblogaidd bob dydd Sul gyda dewis o bum cig gwahanol. Mae’r sefydliad teuluol hefyd yn cynnal priodasau, digwyddiadau a chiniawau preifat, ac mae cynnyrch o Gymru wrth galon ei arlwy.
“Rwy’n credu y gall Cymru gynhyrchu rhai o’r bwydydd o’r ansawdd gorau yn y byd, oherwydd ein glaswellt gwyrdd, cyfoethog a’n hinsawdd. Mae gennym ni dda byw a chynnyrch anhygoel yma yng Nghymru, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig dathlu hynny,” meddai Matty.
“Roeddwn i’n falch iawn o brynu’r ŵyn buddugol yn y Ffair Aeaf. Mae wedi bod yn gyhoeddusrwydd gwych i’r busnes ac wedi helpu i godi ein proffil.”
Ac yntau’n gefnogwr selog Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Matty yn noddi’r adran dofednod, colomennod ac wyau yn y Ffair Aeaf eleni. Aeth i’r digwyddiad gyda’i deulu y llynedd, ac mae’n ei ddisgrifio fel diwrnod allan gwych i’r teulu a chyfle pwysig i arddangos ffermio Cymru a pheth o’r stoc gorau yn y DU.
Mae ei gefnogaeth yn tynnu sylw at y cysylltiad pwysig rhwng y diwydiant amaethyddol a’r sector lletygarwch, ac yn dangos sut y gall yr ansawdd a gydnabyddir yn y cylch arddangos barhau i gael ei fwynhau gan gwsmeriaid ledled Cymru a thu hwnt.
Cynhelir Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. Mae’r digwyddiad deuddydd yn dod â da byw, arddangosfeydd, atyniadau Nadoligaidd a chyfleoedd siopa Nadolig o’r radd flaenaf, at ei gilydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.