Fel un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.
Yn ogystal â’r amserlen arferol sy’n llawn cystadlaethau, arddangosfeydd a sioeau, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i siopwyr brynu anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol. Bydd y Neuadd Fwyd yn llawn o gynhyrchwyr gorau Cymru yn arddangos eu cynnyrch ac yn denu ymwelwyr i flasu’r amrywiaeth eang o ddanteithion blasus sydd ar gael.
Pa ffordd well o ddechrau tymor y Nadolig na thrwy ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru?
Cynhelir Ffair Aeaf 2026 ddydd Llun 30 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr.
Dyddiadau’r dyfodol
Awydd cynllunio ymlaen llaw?
- 2026 – 30 Tachwedd a 1 Rhagfyr
- 2027 – 29 a 30 Tachwedd
- 2028 – 27 a 28 Tachwedd
Sut i ddod o hyd i ni
Nid yn unig y mae gennym LLWYTH o barcio am ddim ar y maes sioe i'r rhai ohonoch sy'n cyrraedd mewn car, ond gallwch hefyd gyrraedd atom drwy drafnidiaeth gyhoeddus.
Pas cyfryngau
Eisiau gwneud cais am bas cyfryngau ar gyfer y Ffair Aeaf? Mae pasys cyfryngau ar gael i aelodau’r cyfryngau sy’n gweithio ar sylw golygyddol, ffotograffig neu ddarlledu o’n digwyddiadau.