Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield, sy’n rhoi cyfle i unigolion sy’n gweithio yn y sectorau ffermio, bwyd, garddwriaeth a chefn gwlad i astudio’n fanwl a theithio, gan ddatblygu eu gwybodaeth a dod â syniadau newydd yn ôl i’r diwydiant.

Fe fydd CAFC yn noddi ffermwr da byw o Ganolbarth Cymru, William Davies, fel Ysgolor Nuffield Cymdeithas Amaethyddol Brenhinol Cymru 2027. Y testun a ddewiswyd gan William yw ‘Archwilio Modelau Busnes Fferm y Gellir eu Gweithredu ar Raddfa Fyd-eang’, gan archwilio sut y gall busnesau amaethyddol dyfu a llwyddo trwy strwythurau perchnogaeth a rheolaeth gwahanol.

Enillodd William radd mewn Amaethyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, ac mae wedi rhedeg ei fusnes ffermio contract hunangyflogedig ei hun ers 2024, gan gymryd cyfrifoldeb llawn am y fenter da byw ar Ystâd Sweet Lamb o ran yr elfennau rheoli a gweithredu.

Mae ei rôl yn cwmpasu rheoli da byw o ddydd i ddydd, cyllidebu, meincnodi perfformiad a gwelliannau i gynllunio. Datblygodd William gytundeb gyda’r tirfeddianwyr, sy’n cynnwys elfen rhannu elw tra’n caniatáu iddo adeiladu ei fuches wartheg ei hun a thyfu ei ecwiti yn y busnes.

Rhoddodd y profiad fewnwelediad uniongyrchol i William i adeiladu busnes da byw sylweddol heb fod yn berchen ar y tir ei hun ac mae wedi sbarduno ei ddiddordeb yn y ffyrdd gwahanol y gellir strwythuro busnesau amaethyddol a’u datblygu.

Trwy ei astudiaeth Nuffield, bydd William yn archwilio beth sy’n galluogi rhai busnesau fferm i barhau i dyfu tra bod eraill yn cyrraedd nenfwd. Bydd yn edrych ar rôl perchnogaeth, mynediad at gyfalaf, rheolaeth, strwythurau busnes a phobl, ac yn ystyried pa egwyddorion sy’n gyson i wledydd a systemau ffermio gwahanol.

Bydd ymchwil William yn cwmpasu amrywiaeth o fodelau, gan gynnwys busnesau teuluol a chorfforaethol, ffermio ar gontract a chyfranddaliadau, prydlesu, cytundebau rheoli a busnesau a gefnogir gan fuddsoddwyr. Mae ganddo ddiddordeb penodol yn y ffordd y mae busnesau llwyddiannus yn gwneud penderfyniadau, yn dyrannu cyfalaf, yn rheoli risgiau ac yn mesur perfformiad, yn ogystal â sut maen nhw’n recriwtio pobl ac yn eu cadw, a sut maen nhw’n cynnal safonau ac atebolrwydd wrth iddynt dyfu.

Mae William yn disgwyl treulio tua wyth wythnos yn teithio, ac ar hyn o bryd mae’n bwriadu cynnwys yr Unol Daleithiau, Uruguay, Awstralia, Seland Newydd a Kenya. Yn ystod yr ymweliadau hyn mae’n bwriadu cwrdd â ffermwyr, perchnogion busnes, rheolwyr a chynghorwyr er mwyn deall sut mae busnesau llwyddiannus yn gweithredu a beth sy’n eu galluogi i dyfu mewn ffordd gynaliadwy. Ar gyfer yr elfen deithio, bydd yn trefnu sawl taith fyrrach ar draws cyfnod yr ysgoloriaeth, yn hytrach na gwneud y daith gyfan i gyd ar yr un pryd.

Nid dod o hyd i un model y gellir ei efelychu yn y DU yw ei nod, ond yn hytrach adnabod yr egwyddorion sydd wrth wraidd busnesau fferm llwyddiannus sy’n gallu cael eu gweithredu ar raddfa fwy, ac ystyried sut y gellid addasu’r rhain i greu cyfleoedd i ffermwyr sy’n ffermio ar hyn o bryd a’r genhedlaeth nesaf.

Mae dod yn Ysgolor Nuffield wedi bod yn uchelgais oes i William, a freuddwydiodd am gwblhau’r ysgoloriaeth am y tro cyntaf tra’n astudio yng Ngholeg Llysfasi a Phrifysgol Aberystwyth. Mae William hefyd wedi bod yn aelod gweithgar o’r CFfI, gan gystadlu ar lefel sirol a chenedlaethol mewn cystadlaethau beirniadu stoc, siarad cyhoeddus a ffensio. Yn ddiweddar, cwblhaodd y ras Dyn yn erbyn Ceffyl i godi arian i Hosbisau Plant Tŷ Gobaith, y mae eu gofal seibiant wedi cefnogi ei deulu.

Ar ôl ennill yr ysgoloriaeth, meddai William:

“Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield ac yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a bwrsariaeth Era Francis Davies am eu cefnogaeth. Hoffwn hefyd ddiolch i deulu’r Bennett Evans am y cyfle i ddatblygu fy ngyrfa ffermio ar Ystâd Sweet Lamb, ac am fy nghefnogi i ymgymryd â’r ysgoloriaeth.

“Rwy’n gyffrous dros ben am y cyfle i archwilio sut mae busnesau amaethyddol llwyddiannus yn gweithredu, yn tyfu ac yn esblygu ar draws ardaloedd gwahanol o’r byd, ac i ystyried sut y gallai’r gwersi hynny helpu i greu cyfleoedd newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermwyr.”

Mae Ysgoloriaeth Nuffield yn rhaglen ddeunaw mis, a’r penllanw yw adroddiad sydd wedi’i gynllunio i rannu syniadau a gwybodaeth newydd gyda diwydiant bwyd a ffermio Prydain. Mae cefnogaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn adlewyrchu ei hymrwymiad i addysg ac ymchwil o fewn sectorau amaethyddiaeth a thir Cymru.

Cyflwynir tystysgrif i William yn ystod seremoni agoriadol swyddogol Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 30 Tachwedd 2026.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.