Mae un o’r gwobrau uchaf eu bri ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, sefGwobr Goffa John Gittins am gyfraniadau neilltuol i’r diwydiant defaid yng Nghymru, wedi’i dyfarnu eleni i Mr John Glandon Lewis, o Lanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn.
Mae Glandon wedi neilltuo dros bedwar degawd i wasanaethu cymunedau gwledig ac amaethyddol Sir Drefaldwyn a thu hwnt. Cafodd ei fagu ar fferm da byw gymysg yn Nolanog, a datblygodd angerdd gydol oes am ffermio a bywyd yng nghefn gwlad.
Ar ôl astudio Rheoli Ystadau Gwledig yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol, Cirencester, enillodd gymhwyster fel Syrfëwr Siartredig cyn dychwelyd i gwmni Norman Lloyd & Co ym 1987, lle mae wedi gweithio ers hynny.
Ac yntau’n arwerthwr uchel ei barch ac yn bartner yn un o fusnesau arwerthiant da byw blaenllaw Cymru, mae Glandon wedi gwerthu da byw o bob dosbarth ar draws nifer o farchnadoedd. Trwy gydol ei yrfa, mae wedi cefnogi ffermwyr drwy heriau mawr yn y diwydiant, gan gynnwys BSE, Clwy’r Traed a’r Genau, y Tafod Glas a materion masnachu trawsffiniol mwy diweddar.
Fe fu ganddo gysylltiad agos hefyd â diwydiant defaid miwl Cymru, ers dros 40 mlynedd. Mae’n eiriolwr cadarn dros farchnadoedd da byw, ac yn cydnabod eu rôl bwysig wrth ddarparu sefydlogrwydd, gosod tueddiadau’r farchnad a sicrhau cystadleuaeth deg i brynwyr a gwerthwyr.
Y tu hwnt i’w gyflawniadau proffesiynol, mae Glandon wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddiwylliant gwledig a bywyd y gymuned. Mae ei lais nodedig yn adnabyddus yn y cylch arwerthu ac ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt. Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o fywyd y teulu ers amser maith, gyda’r teulu’n aml yn perfformio gyda’i gilydd fel Teulu Moeldrehaearn. Mae ei yrfa gerddorol wedi cynnwys cysylltiad â Chwmni Theatr Maldwyn yn ei ddyddiau cynnar ac, yn ddiweddarach, gyda Cut Lloi.
Ac yntau’n llywydd ac arwerthwr elusennol enwog, mae Glandon wedi cefnogi digwyddiadau a sefydliadau lleol di-ri gyda’i ddoniau. Yn 2022, cafodd ei ethol yn Llywydd Digwyddiad Defaid NSA Cymru, a gynhaliwyd yn Nhŷ Coch, Aberhafesp. Mae hefyd wedi bod yn Llywydd Sioe Llanfair a Sioe Llanfyllin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ochr yn ochr â’i wraig, Sioned, mae’n dal i ffermio a rheoli busnes llety gwyliau, ac yn dal i chwarae rhan actif yn y sîn sioeau amaethyddol.

Roedd y panel beirniaid ar gyfer y wobr eleni yn cynnwys Mr Dafydd Parry Jones, a gynrychiolai Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Mr Richard Thomas, o Gymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru Cyf, a Mr John Yeomans, o Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru.
Dywedodd y beirniaid fod safon yr enwebiadau yn rhagorol unwaith eto eleni. Wrth gyfweld â’r tri ymgeisydd ar y rhestr fer, roedd cyflawniadau pawb ar y rhestr fer wedi creu argraff arnynt. Ar ôl ystyried yn ofalus, cytunwyd bod Mr Glandon Lewis yn dderbynnydd teilwng ar gyfer Gwobr Goffa John Gittins 2026, gan gydnabod ei gyfraniad oes i’r diwydiant defaid yng Nghymru.
Cyflwynir y wobr, a noddir gan Gymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru, i Glandon yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun 30 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf, neu i brynu tocynnau, ewch i wefan CAFC.