Teleri Haf Thomas, Llysgennad 2026 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Cefais eiriau caredig a doeth iawn ar ddechrau’r daith hon gan neb llai na’n Llywydd, Mr Gethin Havard. A dyma oedd y geiriau hynny, “anrhydedda’r anrhydedd”.

Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gwasanaethu fel Llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ystod blwyddyn Brycheiniog fel Sir Nawdd. Y tro diwethaf i Frycheiniog fod yn y sedd flaen fel Sir Nawdd, dim ond 14 oed oeddwn i; darn bach o’r darlun mawr fel aelod o gôr y sir ac wrth gefnogi digwyddiadau lleol.

Erbyn hyn rwy’n gwerthfawrogi gwir raddfa’r ymgyrch, ond hyd yn oed bryd hynny rwy’n cofio’r ymdeimlad o falchder a’m gorlethodd wrth imi gamu ar lwyfan y sied gneifio ar gyfer Moliant y Maes, cyn gwylio’r seremoni agoriadol y bore canlynol. Bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae’r teimlad hwnnw o falchder wedi dychwelyd.

Y tro hwn, rwyf wedi cael y fraint o brofi’r daith o safbwynt hollol wahanol – yn rhan o’r Pwyllgor Ymgynghorol a grwpiau ehangach yr is-bwyllgorau. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr ymroddiad a’r ysbryd cymunedol y tu ôl i ymgyrch Brycheiniog, gyda chalendr dan ei sang â digwyddiadau cofiadwy.

Cefais fy ngeni a’m magu yn Nhrecastell, ar ymylon Mynydd Epynt, wrth galon Bannau Brycheiniog. Mae fy nhaith wedi fy nhywys o Ysgol Gyfun Ystalyfera i Brifysgol Aberystwyth, lle astudiais Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yn fwy diweddar, cwblheais radd Meistr mewn Marchnata Strategol a Digidol yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â fy rôl fel Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol Cyswllt Ffermio.

Un man lle rydw i wastad wedi teimlo ymdeimlad cryf o berthyn yw’r Sioe Frenhinol.

Fel rhywun heb gefndir ffermio uniongyrchol, mae’r ymdeimlad hwnnw o berthyn wedi bod yn arbennig o arwyddocaol i mi. Mae’r Sioe wedi rhoi’r cyfle i mi ffeindio fy lle yn y gymuned wledig – o gystadlu ar lwyfan CFfI ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau o CFfI Pont Senni, i weithio yn y Neuadd Fwyd a chamu i mewn i gylch y defaid. Trwy’r profiadau hyn, rydw i wedi dod i werthfawrogi’r balchder a’r ysbryd cymunedol sydd wrth galon y Sioe.

Mae fy nghyfnod fel Llysgennad, a chyn hynny fel Dirprwy yn cysgodi Rhys Griffith o Sir Gaernarfon, wedi rhoi gwerthfawrogiad dyfnach i mi o raddfa’r gwaith. O wirfoddolwyr ac arddangoswyr i stondinau masnach a noddwyr, y gyd-ymdrech hon sy’n rhoi anadl einioes i’r Sioe flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Un o’r cyfleoedd mwyaf dylanwadol i mi oedd Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig y Gymdeithas. Llwyddodd i herio fy ffordd o feddwl, ehangu fy safbwynt a rhoi’r hyder i mi ymgeisio am rôl y Llysgennad. Llwyddodd y profiad hefyd i dynnu sylw at yr angen a deimlir yn gyffredin ar draws y diwydiant i ailgysylltu ein cymunedau gwledig â’n trefi a’n dinasoedd – thema yr wyf yn awyddus i’w hyrwyddo.

Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb ymdrech aruthrol pwyllgor Sir Nawdd Brycheiniog a’r unigolion niferus sydd wedi rhoi o’u hamser a’u cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr elfen Siroedd Nawdd hon sy’n gwneud Sioe Frenhinol Cymru mor unigryw – gyda phob sir yn gadael ei marc ei hun ar Faes y Sioe ac o fewn ei chymunedau.

Wrth i mi edrych ymlaen at weddill fy nghyfnod fel Llysgennad, rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at ddod i adnabod mwy o aelodau o’r gymdeithas wych hon a meithrin cyfeillgarwch gydag Ynys Môn wrth iddi hithau ddechrau ar ei thaith. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed Côr Brycheiniog yn codi to’r sied gneifio yn ystod Moliant y Maes – gan gau’r cylch yn berffaith i mi.

Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Mari Llifon hefyd yn ystod ei chyfnod hi fel Llysgennad.

Teleri Haf Thomas