Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Ymunwch â ni ar gyfer y gŵyl yn 2022!
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Y Sioe 2021 wedi’i gohirio
Ymunwch â ni yn 2022!
Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn 2019 o Ap Frenhinol Cymru ar gael yn awr i’w lawrlwytho. Nawr gallwch chi uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni. Beth am wneud hynny nawr a mynd ati i greu eich amserlen ar gyfer y sioe i sicrhau na wnewch chi fethu unrhyw beth tra byddwch chi yma!
Mae’n adnodd dwyieithog hwylus hwn yn cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe, amserlen digwyddiadau a chanlyniadau llawn, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a gwybodaeth am gadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.
Gall defnyddwyr iPhones a ffonau Android lawrlwytho’r aAp am ddim.