Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sioe Frenhinol Cymru nesaf o 20-23 Gorffennaf 2026.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.
Rydyn ni’n falch o rannu manylion ein maes gwersylla ac adloniant newydd, sydd bellach yn dwyn yr enw Arena, yn Fferm Court Farm, Llanfair-ym-Muallt.

Bydd Arena yn dod â chyfuniad o leoedd gwersylla ac adloniant at ei gilydd ar gyfer y rhai sy’n aros yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, gan gynnwys:

Bydd pawb sydd eisoes wedi mynegi diddordeb yn cael gwybod cyn gynted ag y bydd yr archebion yn mynd yn fyw.
Mae’r CAFC hefyd wedi cadarnhau’r bwriad i anrhydeddu archebion pawb wnaeth gofrestru a thalu am lefydd gwersylla cyn y cyhoeddiad am gau Arena SV.
Yn olaf, rydym yn falch o gadarnhau y bydd aelodau’r CAFC yn cael gostyngiad ar wersylla a mynediad am ddim i’r ardal adloniant, fel rhan o’n hymrwymiad i gydnabod cefnogaeth ein haelodau.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i Arena yr haf hwn.