Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae diogelwch pobl sy’n mynychu digwyddiadau’r gymdeithas yn holbwydig ac rydym yn gofyn i bob ymwelydd nodi’r wybodaeth isod. Dylid cofio’r cyngor hwn hefyd pan fyddir yn mynychu digwyddiadau cysylltiedig eraill yn yr ardal leol.

Paratowch at y daith Mae’n hawdd canfod Maes Sioe Frenhinol Cymru, ond mae’r ffyrdd mynediad yn gallu bod yn eithaf prysur ar ddiwrnodau digwyddiadau, a gall traffig fod yn symud yn araf. Cofiwch edrych am ddiweddariadau teithio a chynllunio eich traith. Dilynwch gyfarwyddiadau’r heddlu a phersonél rheoli traffig. Bydd y ffyrdd yn parhau i fod yn brysur wedi iddi dywyllu.

Gwiriwch y tywydd a byddwch yn barod Un o’r pethau gorau ynghylh sioeau amaethyddol yw cael bod yn yr awyr agored, ond mae hynny’n gallu golygu ein bod yn debygol o gael ein heffeithio gan y tywydd. Edrychwch beth yw rhagolygon y tywydd a chynlluniwch yn biodol… eli haul a hetiau mewn tywydd poeth, welingtons a chotiau glaw yn ystod tywydd gwlyb a dillad cynnes yn y gaeaf.

COVID Er nad oes cyfyngiadau swyddogol gan y llywodraeth ar hyn o bryd, byddem yn cynghori unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws i brofi ac, os yw’n bositif, i ymddwyn yn gyfrifol drwy beidio â mynychu ein digwyddiadau.

Gofynnwn i’r rhai sy’n mynychu unrhyw un o’n digwyddiadau ymddwyn yn gyfrifol a chymryd pa gamau bynnag y maent yn teimlo’n gyfforddus yn eu mabwysiadu megis ymarfer ymbellhau cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb.

Parcio Pan fyddwch yn parcio’ch car, gwnewch nodyn o ba faes parcio rydych ynddo a ble rydych wedi parcio. Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru bydd y gwasanaeth parcio a theithio yn eich cludo i faes y sioe ac yn ôl – cofiwch pa fws sydd angen ichi ei dal ar ddiwedd y dydd. Yn ystod y digwyddiadau eraill, byddwch yn parcio ym mhen isaf maes y sioe. Cofiwch gloi eich car a sicrhewchbod popeth gwerthfawr yn cael eu rhoi o’r golwg.

Dewch i adnabod lleoliadau Bydd eich rhaglen yn cynnwys map o faes y sioe ac mae yna arwyddion ‘rydych yma’ wedi’u lleoli o amgylch y safle. Cymerwch yr amser i ddod i wybod am leoedd allweddol fel y toiledau, mannau cymorth cyntaf a’r ganolfan plant coll. Trefnwch ‘fan cyfarfod’ â ffrindiau a theulu rhag ofn ichi gael eich gwahanu.

Yfwch ddigon o ddŵr Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod tywydd cynnes. Mae croeso ichi ddod â diodydd a phicnics i faes y sioe, er y bydd amrywiaeth eang o luniaeth ar gael gan y masnachwyr ar y safle, yn ogystal â dŵr yfed o’r safbibellau dynodedig, sydd wedi’u lleoli ym mhob un o’n blociau toiledau.

Rhowch seibiant i chi eich hun Mae maes y sioe yn wirioneddol fawr! Byddwch ar eich traed am amser maith. Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus a chymerwch yr amser i eistedd i lawr a gorffwys a mwynhau ein hamgylchedd unigryw a’n hadloniant gwych.

Peidiwch â bwydo’r da bywPeidiwch â bwydo’r da byw os gwelwch yn dda – efallai eu bod ar ddeiet arbennig ac efallai nad ydynt wedi arfer cael eu trfaod. Nid sioe anwesu yw hon.

Golchwch eich dwylo Cofiwch olchi eich dwylo wrth adael mannau’r da byw ac yn enwedig cyn bwyta. Mae dŵr poeth ac oer a sebon diheintiol ar gael yn y mannau golchi dwylo dynodedig ac ym mhob un o’r toiledau. Bwriad hyn yw lleihau lledaeniad heintiadau posibl, megis E. coli.

Byddwch yn wyliadwrus Byddwch yn ymwybodol o bethau o’ch cwmpas a rhowch wybod i’r heddlu, i stiward neu i aelod o’r staff am unrhyw beth amheus.

Gadael maes y sioe Pan fyddwch yn gadael y digwyddiad, yn enwedig os byddwch yn cerdded, cofiwch bod mwy o draffig ar y ffyrdd. Croeswch yn y mannau croesi dynodedig yn unig a dilynwch gyfarwyddiadau’r stiwardiaid pan fydd angen. Mae arosfannau parcio a theithio/bysys a safleoedd tacsis dynodedig wedi’u nodi ar y mapiau.

Dilynwch y Llwybr Gwyrdd Mae diogelwch ein holl fynychwyr yn fater hollbwysig i Sioe Frenhinol Cymru a phawb sy’n ymwneud â digwyddiadau cysylltiedig trwy gydol yr wythnos.  Gofynnir yn beniodol i chi fod yn ofalus iawn wrth deithio rhwng y mannau cyfarfod amrywiol yn cynnwys Maes y Sioe, y Pentref Ieuenctid, Fferm Penmaenau a Thref Llanfair ym Muallt.

Yn benodol, dylech ofalu eich bod yn osgoi’r afon a’r traffig ar gefnffordd sy’n gallu bod yn brysur.  I hwyluso teithio diogel rhwng y safleoedd amrywiol, mae ‘Llwybr Gwyrdd’ wedi cael ei sefydlu ar gyfer y sawl sy’n cerdded.  Treuliwch amser yn astudio’r llwybr a fydd wedi’i nodi’n glir, ac ymdrechwch yn deg i gadw o fewn y llwybr.  Mae sicrhau y gallwch chi fwynhau ein digwyddiadau yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni.

Yfwch yn gyfrifol Rydym yn deall y gall ein digwyddiadau fod yn achlysuron ymdeithasol iawn, ond cofiwch yfed yn gyfrifol a gofalwch amdanoch chi eich hun ac am eich ffrindiau. Byddwch yn ofalus iawn wrth gerdded rhwng mannau cyfarfod.

Yr ardal leol Mae Llanelwedd a Llanfair ym Muallt yn cynnig amrywiaeth fawr o amwynderau lleol, siopau, tafarndai, bwytai a chaffis, ac nid oes angen cerdded yn bell i’w cyrraedd o faes y sioe. Fodd bynnag, cofiwch fod yn ymwybodol o’r ffordd brysur a’r afon wrth grwydro’r ardal leol. Byddwch yn ofalus wrth symud rhwng y dref a safleoedd eraill.

DIM nofio Peidiwch â nofio yn yr afon os gwelwch yn dda. Hyd yn oed ar ddiwrnod chwilboeth, mae’r afon sy’n rhedeg heibio’r Pentref Ieuenctid, y meysydd carafanau, meysydd parcio a thrwy dref Llanfair-ym-Muallt a phentref Llanelwedd yn gallu bod yn beryglus iawn. Mae yna byllau dwfn ac isgerhyntau cryf na ellir eu gweld o’r wyneb. Nid oes unrhyw fannau diogel i groesi, hyd yn oed pan fydd lefel y dŵr yn yr afon yn isel.

Carfanau Os byddwch yn dod â charafán i ddigwyddiad, byddwch yn ystyriol o’r perygl tân sy’n gysylltiedig â charafanau a byddwch yn gyfrifol, e.e. wrth goginio, peidiwch â gadael padelli heb neb yn gofalu amdanynt, gosodwch synhwyrydd mwg a diffoddwr tân powdwr sych sy’n gweithio yn eich carafán. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwybod ble mae’r diffoddwyr tân ar y safle carafanau.

Bwydo ar y Fron Mae Maes Sioe Frenhinol Cymru yn safle sy’n croesawu bwydo ar y fron. Mae hyn yn golygu ein bod yn croesawu bwydo ar y fron yn unrhyw le ar faes y sioe ac yn gweithio i gefnogi mamau a theuluoedd, a’u grymuso, fel eu bod yn teimlo’n hyderus wrth fwydo ar y fron allan yn y gymuned.

Byddwch yn wybodus bob amser Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwybod ble mae’r diffoddwyr tân ar y safle carafanau.

Argyfyngau Mae argyfyngau’n annhebygol iawn, ond os bydd argyfwng, helpwch ni os gwelwch yn dda trwy gydymffurfio’n ddi-oed ag unrhyw geisiadau gan y gwasanaethau brys, y stiwardiaid neu aelodau o’r staff.

Trefniadau diogelwch

Byddem yn hoffi sicrhau pawb sy’n mynychu Sioe Frenhinol Cymru bod diogelwch ymwelwyr wedi bod yn flaenoriaeth bennaf i ni bob amser, a bydd yn parhau i fod felly.

Mae gennym eisoes gynlluniau rheoli digwyddiadau a chynlluniau wrth gefn cadarn iawn yn eu lle, sy’n cynnwys nifer enfawr o wahanol senarios, ac sydd wedi’u creu ar y cyd â’r heddlu lleol a phartneriaid allweddol eraill.

Nid oes dim i awgrymu y bydd unrhyw helynt yn digwydd yn y sioe, ond, i sicrhau bod ein gwesteion yn gallu ymlacio a mwynhau’r sioe, rydym yn ychwanegu at y ddarpariaeth diogelu yn ystod yr wythnos, yn unol â’r duedd genedlaethol. Bydd y mesurau hyn, sydd wedi’u cynllunio i dawelu meddwl, yn cynnwys mwy o staff diogelu, mwy o bresenoldeb gan yr heddlu a chwilio bagiau ar hap ger y mynedfeydd i faes y sioe.

Gofynnwn i’n hymwelwyr ein helpu â’r pethau penodol canlynol:

  • Byddwch yn barod i ddangos pob un o’ch tocynnau, pasys neu fathodynnau perthnasol pan ofynnir ichi.
  • Gofalwch, os oes gennych bàs cerbyd, ei fod wedi’i arddangos yn gywir ar eich sgrîn wynt cyn cyn i chi nesáu at y maes parcio neu fynedfa maes y sioe.
  • Rhowch wybod am unrhyw beth amheus i’r heddlu, stiward neu aelod o’r staff.
  • Helpwch ni trwy gydymffurfio’n ddi-oed ag unrhyw geisiadau gan stiwardiaid neu aelod o’r staff.

Diolch ichi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu i ddigwyddiad gwych arall gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.