Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Blociau Toiledau

Mae blociau toiledau wedi’u lleoli fel a ganlyn:

  • Canolfan Groeso (Aelodau) (Anabl)
  • Neuadd Arddangos De Morgannwg (Anabl)
  • Neuadd Clwyd Morgannwg (Anabl)
  • Pafiliwn Maldwyn (Anabl)
  • Y tu ôl i Fanc HSBC
  • Gerllaw Cylch y Ceffylau (Anabl)
  • Bryn y Ceffylau
  • Gerllaw Mynedfa A
  • Tanffordd y Prif Gylch
  • Rhwng Rhodfa D & C
  • Gerllaw Cylch y Gwartheg
  • Gerllaw Cylch y Moch a’r Geifr (Anabl)
  • Bloc islaw Neuadd Henllan

Mannau Newid a Bwydo Babanod

Mae cyfleusterau newid babanod wedi’u darparu yn y blociau toiledau’n gyfagos i Gylch y Geifr, Tanffordd y Prif Gylch, Canolfan Groeso (Aelodau), Pafiliwn Trefaldwyn, Canolfan y Tyddynwyr (Neuadd Arddangos De Morgannwg), Bloc Toiledau Cylch y Ceffylau (yn y maes parcio) a’r bloc Toiledau gerllaw Banc HSBC.

Bydd man bwydo a newid babanod ar gael yn cael ei staffio gan Stiwardiaid y Gymdeithas wedi’i leoli mewn uned o dan y brif eisteddle.  Bydd y gwasanaeth ar gael o 10.00 y bore tan 5.00 y pnawn.

Parcio

Bydd parcio am ddim mewn mannau dynodedig ar faes y sioe.

Parcio i’r anabl:

Bydd rhywfaint o le’n cael ei gadw ym mhen blaen meysydd parcio sydd wedi’u lleoli yn rhan isaf maes y sioe. Dim ond y cerbydau hynny sy’n arddangos sticer car Bathodyn Glas/Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn cael blaenoriaeth. Os nad oes pàs wedi’i arddangos bydd y Gymdeithas yn parcio ymwelwyr yn y maes parcio cyntaf sydd ar gael.

Cŵn

Mae croeso i gŵn yn y digwyddiad ond rhaid eu cadw ar dennyn yr holl amser a byddir yn eu cyfyngu rhag mynd i mewn i’r adeiladau, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys dofednod, da byw, ac arlwyo. Bydd eithriadau’n cael eu gwneud yn y Neuadd Fwyd neu safleoedd arlwyo i ymwelwyr gyda chŵn cymorth neu gŵn clywed.

Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir da chi.

Arlwyo

PAFILIWN TREFALDWYN
Cegin Gwenog Catering

Ffôn: 01570 481 230. Gellir archebu’n uniongyrchol gyda’r arlwywr.

BRECWAST ~ 8.00 y bore tan 10.00 y bore
CINIO ~ 12.00 hanner dydd tan 3.00 y pnawn
SWPER ~ 5.30 y pnawn tan 9.00 yr hwyr
Sadwrn – Cerddoriaeth fyw o 8.00 yr hwyr

CANOLFAN Y TYDDYNNWR (Neuadd Arddangos De Morgannwg)
Cegin Gwenog Catering
Lluniaeth byrbryd poeth ac oer ~ Dydd Gwener 11.00 y bore tan 6.00 yr hwyr, Dydd Sadwrn a Dydd Sul 9.00 y bore tan 6.00 yr hwyr.

HEN YSTAFELL DE (Ardal Bywyd Gwledig)
Te, coffi, a lluniaeth ysgafn – ar agor 9.00 y bore tan 6.00 yr hwyr Ddydd Sadwrn a Dydd Sul.

NEUADD HENLLAN
Bydd y Bwyty a’r Bar ar agor.

ARDAL BWYD STRYD GWLEDD | FEAST
Bydd gennym ddewis o fwyd a diod arlwyo symudol Cymreig gyda rhaglen gerddoriaeth a man eistedd rhwng 9.00 y bore a 5.00 y pnawn.

UNEDAU ARLWYO BWYD CYFLYM SYMUDOL
Bydd safleoedd bwyd cyflym ar gael ar y safle hefyd.

Canolfan Cymorth Cyntaf

Mae triniaeth Cymorth Cyntaf ar gael yn y Ganolfan Cymorth Cyntaf, wedi’i lleoli yn Nhŵr Rheoli Cylch y Defaid, a bydd yn cael ei gweithredu gan Medical Solutions ac ar agor o 12 hanner dydd ar ddydd Gwener 17 Mai tan ddiwedd yr Ŵyl.

Mae gofal dros nos cyfyngedig yn cael ei ddarparu gan y tîm cymorth cyntaf.

Rhif Ffôn: 01982 554407

O 6.00 y pnawn ddydd Gwener 17 Mai tan 6.00 y pnawn ddydd Sul 19 Mai.

MWY O WYBODAETH

I gael mwy o wybodaeth i ymwelwyr ynghylch yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad sy’n dod darllenwch fwy yma.