Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dangoswch bod eich brand yn cefnogi un o gymdeithasau amaethyddol mwyaf Ewrop a dewch yn rhan o sefydliad sy’n gwneud cyfraniad blaenllaw at ddatblygu amaethyddiaeth ac economi cefn gwlad Cymru a Phrydain Fawr ers 1904.

Gellir llunio pecynnau nawdd a chyfleoedd yn benodol i weddu i’ch gofynion a’ch cyllideb. P’un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn hysbysebu mewn catalog, noddi dosbarth dangos da byw neu ddod yn brif noddwr un o’r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi.

Gallai buddion bod yn un o noddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gynnwys:

  • Cysylltiad â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, brand adnabyddus a mawr ei barch yn rhyngwladol
  • Cyfle i ddwyn eich brand i sylw cynulleidfa fawr a pherthnasol
  • Cyfle i gyrraedd at gwsmeriaid newydd a blaenorol, a chyfleoedd i gynyddu eich sylfaen o gleientiaid
  • Cyrraedd at gynulleidfaoedd teledu eang trwy gyfrwng rhaglenni a gaiff eu darlledu cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiadau ar S4C, y BBC ac ITV, ynghyd â darllediadau a gaiff eu ffrydio’n fyw ar-lein yn rhyngwladol
  • Presenoldeb amlwg iawn ar faes y sioe
  • Cyhoeddiadau gan sylwebwyr yn ystod y digwyddiadau
  • Cynnwys eich enw ar wefannau www.rwas.wales a www.cafc.cymru
  • Cyhoeddusrwydd ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrifon Twitter (oddeutu 16,000 o ddilynwyr), Facebook (oddeutu 29,000 o ddilynwyr) ac Instagram (oddeutu 8,400 o ddilynwyr) y Gymdeithas.
  • Sylw mewn erthyglau golygyddol a brandio yng nghylchlythyr digidol y gymdeithas sy’n cael ei anfon at dros 8,000 o danysgrifwyr
  • Sylw mewn datganiadau perthnasol i’r wasg
  • Gostyngiad o 50% wrth hysbysebu yn rhaglenni a chatalogau swyddogol ein digwyddiad
  • Mynediad i’r pafiliwn lletygarwch arbennig ar gyfer noddwyr
  • Tocynnau digwyddiadau a bathodynnau noddwyr VIP

Yn ôl ein noddwyr presennol, maent yn parhau i gefnogi ein digwyddiadau oherwydd dau brif reswm:

Mae’n gwella proffil brandiau ac yn sbarduno gwerthiant, gan roi’r cyfle i fusnesau gysylltu â chleientiaid amaethyddol.

Maent yn frwdfrydig ynghylch cefnogi’r sector amaethyddol, fel gweithred ddyngarol yn aml, yn ogystal â dadleuon masnachol.

Blaenorol
"Mae maint a hanes y sioe yn cynnig bri ychwanegol ac mae dylanwad y nawdd yn gryfach o lawer beth allai digwyddiadau amaethyddol eraill ei gynnig."
"Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cefnogi ffermio a'r gymuned wledig yn benodol. Mae'n fath o sector sy'n tueddu i gael ei anwybyddu. Rydym ni hefyd yn credu y gallwn ni hysbysebu ein gwasanaethau ac rydym ni'n credu ein bod ni wedi sicrhau rhagor o fusnes trwy noddi'r sioe.”
"Rydym ni'n gwerthfawrogi sut mae'r sylw ar y teledu yn cynyddu gallu'r sioe i gyrraedd at gynulleidfa a'n cysylltiad â hi."
“[Rydym ni hefyd yn noddi] un neu ddwy sioe leol, ond nid ydynt yn cymharu â Sioe Frenhinol Cymru, mae hynny fel cymharu Manchester United â chynghrair leol.”
"Rydym ni'n parhau i fod yn noddwyr yn sgîl adborth gan ein cwsmeriaid sy'n dweud eu bod wedi sylwi ar ein cysylltiad â'r sioe."
“Mae dau brif reswm; yn gyntaf, ffermwr wyf i yn y bôn, ac rwy'n hoffi cefnogi ffermwyr lleol. Mae noddi'r sioe yn rhan o hyn. Yn ail, mae'n cynnig cyfle da i amlygu ein hunain i'n cwsmeriaid a dangos iddynt y byddwn ni'n arddangos mewn digwyddiadau a sioeau mawreddog iawn."
Nesaf
Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad

Mae'r ŵyl ddeuddydd yn ddathliad o fywyd tyddyn a chefn gwlad, ac mae'n cynnig rhaglen brysur o adloniant, gweithgareddau addysgol, gweithdai am ddim, dros 1,400 o gynigion da byw, dwy neuadd fwyd benodol, cannoedd o stondinau masnach, a pherfformiadau cyffrous yn y prif gylch.

Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol eiconaidd Cymru yw uchafbwynt calendr digwyddiadau amaethyddol Prydain, ac mae'n cynnig pedwar diwrnod o gystadlaethau, a dosbarthiadau dangos da byw sy'n denu miloedd o geisiadau o bell ac agos. Gallwch chi ganfod rhywbeth i bawb yn cynnwys siopa, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr ddyddiol yn llawn adloniant cyffrous, atyniadau ac arddangosiadau.

Y Ffair Aeaf

Y Ffair Aeaf yw un o sioeau da byw dethol gorau Ewrop sy'n denu arddangoswyr da byw o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, yn cystadlu am y prif wobrau yn y cystadlaethau. Bydd cynhyrchwyr bwyd gorau Cymru yn arddangos eu nwyddau a gall siopwyr Nadolig fwynhau cannoedd awyrgylch y Nadolig wrth bori trwy'r cannoedd o stondinau masnach, yr arddangosiadau a'r arddangosfeydd.

Beth am stondin masnach?

Beth am gyfuno eich pecyn nawdd â safle ar gyfer stondin masnach, ac elwa o’r holl fuddion o fod yn gysylltiedig â digwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru?

Lletygarwch

Tretiwch eich cleientiaid i ddiwrnod lletygarwch yn Sioe Frenhinol Cymru.

A hoffech chi wybod rhagor? Cysylltwch:
Lois Morris
Cynorthwy-ydd Nawdd
Ffôn
01982 554410