Mae gan Sioe Frenhinol Cymru rywbeth i ddiddori pawb trwy gyfrwng ei hamrywiaeth eang o ddosbarthiadau da byw, sy’n denu dros 7,500 o geisiadau o bob cwr o Gymru, y DU a gweddill Ewrop, yn ogystal â gweithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr ddyddiol yn llawn adloniant cyffrous, atyniadau ac arddangosiadau.
Mae fersiwn 2024 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

Mae’ch tocyn yn llawer iawn mwy na dim ond mynediad i Faes y Sioe. Mae’r Sioe’n ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd, sy’n dathlu nid yn unig fwyd a ffermio ond hefyd ddiwylliant, amrywiaeth, y Gymraeg, angerdd, a chariad at y tir.