Atyniadau Sioe - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Sioe Styntiau Beic Cwad Paul Hannam

Paul Hannam yw dyn y styntiau beic cwad ac mae’n dod o Ogledd Dyfnaint. Mae ganddo 25 mlynedd o brofiad o reidio beiciau cwad a 10 mlynedd o brofiad o rasio ar lefel Pencampwriaeth Prydain.

Mae Sioe Styntiau Beic Cwad Paul Hannam yn addo arddangosiad cyffrous o sgiliau, manwl gywirdeb ac difyrrwch beiddgar. Gall cynulleidfaoedd fwynhau arddangosiad beic cwad a styntiau lle mae’r cywirdeb o fewn trwch blewyn, gan gynnwys y cwad styntiau aml-rôl trawiadol, wrth i Paul daclo amrywiaeth anhygoel o rwystrau fel ceir, faniau, tractorau ac ambell i lori anferth.

Gyda neidiau mor fawr ag y mae’r arena yn eu caniatáu, mae pob stynt hyd yn oed yn fwy trawiadol am ei fod yn cael ei wneud heb gymorth ramp glanio. Bydd y triciau i’w gweld ym mhob un o bedair cornel yr arena, gan sicrhau bod gwledd o ddifyrrwch o flaen eich llygaid a phawb yn cael golygfa wych.

Rhwng arddangosiadau, anogir ymwelwyr i alw heibio i’r stondin ryngweithiol i gael golwg agosach ar y beiciau, cwrdd â Paul a chael llun.

Grand National y Merlod Shetland

Yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Brif Gylch, mae Grand National y Merlod Shetland  yn un o’r atyniadau mwyaf cyffrous ac unigryw ym maes campau marchogaeth. Mae’r arddangosiad cyffrous hwn yn dathlu ei 45ain flwyddyn, ac mae’n cynnwys marchogion ifanc talentog ar gefn merlod Shetland cofrestredig mewn sioe gyflym, gyfeillgar i’r teulu sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn digwyddiadau mawreddog gan gynnwys Sioe Geffylau Frenhinol Windsor, Sioe Geffylau Ryngwladol Llundain, Aachen yn yr Almaen, Prague a Sioe Geffylau Ryngwladol Longines Hong Kong.

Sefydlwyd Grand National y Merlod Shetland i feithrin marchogion y dyfodol, ac mae wedi helpu i lansio gyrfaoedd mwy na 33 o farchogion proffesiynol, gan gynnwys Sam a Willy Twiston-Davies, Freddie Keighley, Olive Nicholls a’r Pencampwr Marchog Gwastad Jim Crowley.

Mae’r marchogion, sydd rhwng 8 a 14 oed ac yn fyrrach na 5 troedfedd o daldra, yn dangos sgil, dyfalbarhad a gwaith tîm neilltuol wrth iddynt gystadlu ar gefn merlod Shetland sydd wedi’u cofrestru’n swyddogol. Yn ogystal ag ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ym myd marchogaeth, mae’r sefydliad wedi codi mwy na £1 miliwn ar gyfer achosion elusennol, gan gynnwys dros £300,000 ar gyfer Ymddiriedolaeth Ganser Bob Champion.

Mae Grand National y Merlod Shetland yn ddigwyddiad proffesiynol, difyr a llawn cyffro, ac mae’n sicr o fod yn un o uchafbwyntiau rhaglen y Brif Gylch eleni.

Tîm Arddangos Parasiwt RAF Falcons

Mae’r RAF Falcons yn dîm arddangos parasiwt milwrol blaenllaw’r DU, wedi’u lleoli yn RAF Brize Norton, Swydd Rydychen. Maent yn perfformio mewn lleoliadau ledled Prydain ac Ewrop trwy gydol y flwyddyn. Maent wedi perfformio sawl gwaith i’r Teulu Brenhinol a phennaethiaed gwledydd ac wedi gosod recordiau a chyflwyno arloesiadau cyffrous ym maes neidio ffurfiad.

Mae eu harddangosfa gyffrous yn cynnwys symudiadau uchel, gan ddisgyn hyd at gyflymder o 120mya o uchderau o 7000 troedfedd i sioeau isel o 2500 troedfedd, a’u harddangosfa ‘hybrid’ enwog sy’n cynnwys y Galon neu’r Helix a’r Carwsél Croesi sy’n swyno’r gynulleidfa.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys parasiwtwyr yn neidio gyda baneri, gan gynnwys baner Undeb a baner y RAF, gyda mwg i ychwanegu at ysblander yr arddangosfa.

Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn unig, os yw’r tywydd yn caniatáu

Hawkeye Falconry UK

Mae Hawkeye Falconry UK yn dod i’r Sioe Frenhinol am y tro cyntaf eleni, gan ddod â phrofiad cyffrous ac addysgiadol o adar ysglyfaethus i Faes y Sioe.

Mae Hawkeye Falconry yn angerddol am arddangos harddwch, sgiliau a galluoedd naturiol rhai o adar mwyaf anhygoel y byd. O eryr mawreddog a chudyllod pwerus i hebogiaid cyflym a thylluanod difyr, bydd cyfle i ymwelwyr weld y creaduriaid anhygoel hyn yn agos a dysgu mwy am eu hymddygiad, eu cadwraeth a’u rôl yn ein treftadaeth naturiol.

Trwy gydol y Sioe, bydd Hawkeye Falconry yn cynnal arddangosfa statig lle gall ymwelwyr gwrdd ag amrywiaeth o adar ysglyfaethus a darganfod celfyddyd hynafol hebogyddiaeth. Bydd eu tîm gwybodus wrth law i rannu mewnwelediadau i’r bartneriaeth unigryw rhwng yr hebogydd a’r aderyn, gan gynnig profiad difyr dros ben i bobl o bob oedran.

Yn ogystal, bydd tîm Hawkeye yn cyflwyno arddangosiadau hedfan cyffrous yn yr arena arddangos bob dydd. Bydd yr arddangosiadau cyfareddol hyn yn arddangos cyflymder, ystwythder a deallusrwydd amrywiaeth o adar ysglyfaethus gan gynnig cyfle prin i weld eu hymddygiadau naturiol ar waith.

Efallai eich bod chi wedi bod yn angerddol am adar erioed, neu’n gweld adar ysglyfaethus am y tro cyntaf. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, mae ymddangosiad cyntaf Hawkeye Falconry UK yn y Sioe Frenhinol yn addo bod yn brofiad bythgofiadwy.

Meirion Owen a’i Gwn Defaid

Ag yntau’n ffermwr drwyddo draw,  mae Meirion Owen wedi gweithio gyda chŵn defaid Border Collie trwy gydol ei oes a dyma’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fod yn rhan o’r grefft o hyfforddi, cystadlu ac arddangos gyda chŵn defaid ar draws y DU.

Dechreuodd Meirion gystadlu pan yn naw oed ac mae wedi mwynhau cryn lwyddiant dros y blynyddoedd. Ag yntau’n gyn-Bencampwr Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru, mae wedi bod yn gapten ar dîm Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol ac wedi ymddangos mewn tair cyfres o One Man and His Dog ar y BBC.

Yn wyneb cyfarwydd ar y teledu a’r radio, mae Meirion wedi ymddangos ar dipyn o raglenni, gan gynnwys The One Show, Countryfile, Songs of Praise a Love Your Weekend gydag Alan Titchmarsh ar ITV.

Trwy ei arddangosiadau difyr ac addysgiadol, mae Meirion yn esbonio’r daith, o ddewis a hyfforddi ci bach ifanc i ddatblygu ci defaid gweithio medrus. Bydd ymwelwyr yn gweld ei gŵn defaid talentog – Helen, Cassie, Jess, Megan a Jammie – yn tywys defaid neu hwyaid yn fedrus trwy ddefnyddio cyfuniad o orchmynion llais a chwiban, gan arddangos y bartneriaeth ryfeddol rhwng y triniwr a’r ci.

I ychwanegu at yr hwyl, mae Meirion hefyd yn gwahodd aelod o’r gynulleidfa i’r cylch am y cyfle i weithio un o’i gŵn defaid, gan sicrhau bod hwn yn atyniad difyr a chofiadwy i bobl o bob oedran.

Gyrru Cerbydau Tristar

Bydd yr hen ffefryn tîm Tristar Carriage Driving yn  ôl i berfformio yn y Brif Gylch bob diwrnod o’r Sioe.

Bydd y ceffylau Tristar yn cael eu stablo yn y lle arferol, ac mae croeso i chi ymweld â nhw yn ystod y Sioe. Bydd y tîm hefyd yn rhoi cyflwyniad am hanes hyfforddi yn y Cylch Ceffylau ddydd Mercher am 10.30am.

Band Catrodol a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol

Mae Band Catrodol y Cymry Brenhinol yn un o’r ychydig iawn o’r bandiau pres i gyd o fewn Cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig, gan dynnu chwaraewyr o dreftadaeth a diwylliant bandiau pres cyfoethog rhanbarth De Cymru i’w rengoedd. Mae’r cerddorion i gyd yn aelodau o’r Fyddin Wrth Gefn ac yn ymrwymo i’r Band o gwmpas eu galwedigaethau sifil.

Mae i’r Band amlochredd steil a repertoire ar y llwyfan cyngerdd ac ar barêd fel band gorymdeithio.  Fe’i gwelir yn rheolaidd trwy’r dywysogaeth i gyd, yn darparu amrywiaeth eang o ddyletswyddau cyhoeddus a seremonïol o saliwtiau Gynnau Brenhinol a pharedau rhyddid i’w bresenoldeb parhaus yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ble mae’n perfformio i gefnogwyr rygbi ledled y byd.

Chwaraeodd y Band ran ganolog yn y digwyddiadau cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Diweddar Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II; yn darparu cefnogaeth gerddorol ar gyfer Cyhoeddi’r brenin newydd, ar gyfer ymweliad cyntaf Eu Mawrhydi y Brenin Charles III a’r Frenhines Camilla â Chymru, ac ar gyfer y Coroni dilynol ym mis Mai 2023 hefyd.

Yn ogystal â pherfformiadau cartref, mae’r Band a’r Drymiau wedi teithio ledled Ewrop, Canada, ac Awstralia hefyd.  Mae’u cerddoriaeth wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y Byd mewn nifer o datŵau milwrol, yn cynnwys Tatŵ Rhyngwladol Brenhinol Nova Scotia yng Nghanada, ac yn Nhatŵ Milwrol Rhyngwladol ‘Musikfest dêr Bundeswehr’ yn Düsseldorf, Yr Almaen.

Cymdeithas Chwaraeon Dronau Byddin Prydain

Mae Cymdeithas Chwaraeon Dronau Byddin Prydain (BADSA) yn un o chwaraeon mwyaf newydd Byddin Prydain. Nod BADSA yw defnyddio’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chwaraeon dronau ar gyfer cystadlaethau hwyliog, gwella gallu milwyr i weithredu ac arbrofi gyda dronau yn ogystal â datblygu sgiliau trosglwyddadwy i gapasiti milwrol.

Bydd BADSA yn sefydlu arddangosiad Rasio Dronau ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, i ddangos sgil milwyr a chyflwyno’r gamp STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) hwyliog hon i’r cyhoedd.

Dydd Llun a Dydd Mercher yn unig

Pentref Ceffylau Trwm

Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus y llynedd, mae’r Pentref Ceffylau Trwm yn dychwelyd ar gyfer 2026, gan ddathlu’r anifeiliaid godidog hyn a’u rôl hanfodol mewn treftadaeth amaethyddol.

Bydd y Pentref yn cynnwys rhai o’r ceffylau mwyaf yn y wlad ac yn cynnig cyfle gwych i ddod yn agos at y cewri addfwyn hyn.

Roedd y Pentref yn boblogaidd dros ben ymhlith ymwelwyr yn 2025 ac, unwaith eto, bydd yn darparu lle pwrpasol lle gall pobl ddysgu mwy am hanes a nerth ceffylau gwedd a thrwm, a’u natur amryddawn.

Amserlen ddyddiol

Bob dydd, gallwch chi fwynhau rhaglen 12 awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous yn Sioe Frenhinol Cymru. Bydd amserlen 2026 ar gael yn fuan.

Lawrlwythwch Ap Frenhinol Cymru

Bydd fersiwn 2026 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Peidiwch ag oedi! Prynnwch eich tocynnau nawr.