Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
22-25 Gorffennaf 2024.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Prif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru…
Ynghyd â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw a cheffylau, mae gan y sioe rywbeth i ddiddori pawb trwy ei hystod eang o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous.
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol ar gyfer cwmniau sy’n cynnig nwyddau megis cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, taclau garddio, pob mathau o nwyddau i’r cartref a llawer iawn rhagor.
Mae ceisiadau ar gyfer Stondinau Masnach Sioe Frenhinol Cymru 2024 bellach ar agor. Gweler y dolenni isod am arweiniad i arddangoswyr.
Ar ôl llwyddiant lansiad y Pentref Bwyd Cymreig – Gwledd | Feast, mae ceisiadau ar agor yn awr ar gyfer lle i stondin yn Sioe Frenhinol Cymru 2024.
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod a’i dychwelyd at Laura Alexander ar foodhall@rwas.co.uk erbyn 10fed Ebrill 2024 os gwelwch yn dda. Gofalwch eich bod wedi darllen y canllawiau gwneud cais yn ofalus.
Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.
Fel y gwnaeth yn ystod blynyddoedd blaenorol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhedeg Lolfa Fasnach i Fusnesau ar lawer cyntaf y Neuadd Fwyd, a bydd ar gael i bob arddangoswr. Bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei darparu ar gyfer bob arddangoswr llwyddiannus.
Os hoffech gael stondin o fewn y neuadd fwyd cysylltwch â Laura Alexander ar e-bost: foodhall@rwas.co.uk