Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Toiledau, cawodydd a chyfleusterau ar gyfer newid babanod

  • Mynedfa A – Rhodfa E
  • Cylch Ceffylau (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa J/H
  • Cylch Ymgasglu y Prif Gylch (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod) – Rhodfa K
  • Cylch Gwartheg, cornel uchaf (yn cynnwys cawodydd) – Rhodfa M
  • Cylch Moch a Geifr (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa M
  • Llecyn Gweithgareddau Cefn Gwlad (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chawodydd) – Rhodfa D
  • Rhodfa Peiriannau (yn cynnwys cawodydd) – rhwng Rhodfeydd C a D
  • Neuadd Arddangos De Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
  • Hafod a Hendre (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod)
  • Pafiliwn Maldwyn (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) (Aelodau yn unig)
  • Canolfan yr Aelodau (yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer newid babanod ac i bobl anabl) (Aelodau yn unig)
  • Mae cyfleusterau ar gyfer newid a bwydo babanod ar gael hefyd yn y babell ar gyfer plant sydd ar goll yn Rhodfa E (gyferbyn ag eisteddle’r prif gylch)

Hygyrchedd

Bydd Event Mobility yn darparu sgwteri trydan a chadeiriau olwyn llaw at ddefnydd ymwelwyr anabl, ymwelwyr oedrannus ac ymwelwyr sydd â nam ar eu symudedd wrth iddynt ymweld â Sioe Frenhinol Cymru

I gadw sgwter symudedd neu gadair olwyn llaw gellwch archebu ar-lein ar www.eventmobility.org.uk.Nodwch os gwelwch yn dda na ellir archebu ymlaen llaw dros y ffôn.

Polisi Tocynnau Pobl Anabl

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ymrwymo i wella hygyrchedd at y cyfleusterau ac yn anelu at wneud tripiau’n fwy cysurus a phleserus i ymwelwyr sydd ag anableddau.

Os oes gan ymwelydd ofalwr neu gynorthwywr cofrestredig llawn amser, caiff y gofalwr ddod i’r Sioe yn rhad ac am ddim trwy wneud cais ymlaen llaw gyda’r dogfennau ategol.

Sylwch os gwelwch yn dda y bydd tocynnau ymlaen llaw ond yn cael eu darparu ar ôl derbyn prawf digonol fod y cynorthwywr yn ofalwr cofrestredig.  Ni fydd trefniadau o’r fath ar gael wrth y giât.

I gael mwy o wybodaeth neu i archebu ffoniwch 01982553683 neu e-bost requests@rwas.co.uk.

Mynedfeydd cerdyn yn unig

Bydd y rhan fwyaf o’r gatiau mynediad yn derbyn taliadau CERDYN YN UNIG.
Bydd Gatiau A, C, a G yn derbyn arian parod yn ogystal â cherdyn.

Parcio

Lleolir ein meysydd parcio a theithio RHAD AC AM DDIM ar yr holl brif ffyrdd i faes y sioe, a cheir digonedd o arwyddbyst o bob cyfeiriad.

Dilynwch gyfeiriad y traffig a chyfarwyddiadau’r stiwardiaid parcio i sicrhau eich bod chi’n parcio yn gyflym ac yn ddiogel. Cofiwch nodi ym mha faes parcio byddwch chi’n parcio.

Bydd bysys parcio a theithio rheolaidd AM DDIM yn rhedeg i faes y sioe ac yn ôl rhwng 7.30yb a 9.30yh.

Mae lle parcio agosach ar gael yn ein maes parcio ar gyfer ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas. Bydd bysys gwennol parcio a theithio â mynediad isel yn cludo teithwyr AC AM DDIM i faes y sioe ac yn ôl rhwng 7.30yb a 9.30yh.

Plant sydd ar goll

Lleolir y babell i blant sydd ar goll yn Rhodfa E, gyferbyn ag eisteddle’r prif gylch (rhif y stondin – E361). Bydd y babell ar agor rhwng 9.30 yb a 7.30 yh. Y tu allan i’r oriau hyn, gofalir am bob plentyn sydd ar goll yng Ngorsaf yr Heddlu, ger Mynedfa A.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw blentyn sydd ar goll yn Swyddfa’r Heddlu ger Mynedfa A neu ym Mhencadlys CAFC (Rhif ffôn: 01982 553683).

Banciau, cymdeithasau adeiladu a pheiriannau arian

Mae peiriannau arian wedi’u lleoli yn y mannau hyn:

  • Banc Barclays – yn Rhodfa E
  • Banc HSBC – yn Rhodfa E
  • Mynedfa A
  • Mynedfa D
  • Pafiliwn Ffwr a Phlu

Argyfyngau

Os bydd unrhyw argyfwng, ffoniwch 999.
Yn achos materion sydd ddim yn argyfyngau, gellir canfod Swyddfa’r Heddlu ger Mynedfa A (Rhif ffôn: 101) neu mae Pencadlys CAFC wrth ochr Pafiliwn Maldwyn (Rhif ffôn: 01982 553683).

Cymorth Cyntaf

Mae Canolfan Feddygol sydd â’r holl gyfarpar priodol a thîm o staff meddygol proffesiynol wedi’i lleoli yn Rhodfa D (Rhif ffôn: 01982 551057).

Eiddo Coll

Gellir casglu a rhoi gwybod am eiddo coll yng Ngorsaf yr Heddlu, ger Mynedfa A.

Storfa Cyfleustra

Bydd siop gyfleustra yn cael ei lleoli ger yr Adeiladau Gwartheg ar faes y sioe drwy gydol y Sioe. Mae’r oriau agor fel a ganlyn:

Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 9.00am-6.00pm
Dydd Llun – Dydd Mercher: 7.00am-10.00pm
Dydd Iau: 7.00am-8.00pm
Dydd Gwener: 8.00am-4.00pm

Eisteddle Prif Gylch

Ar gyfer y rhai nad ydynt yn aelodau codir tâl o £5 y sedd, y dydd, os oes lle yn y mannau cyhoeddus. Nid yw’n bosibl cadw seddi ymlaen llaw. Gellir prynu seddi yn yr adran gyhoeddus ar ddiwrnodau Sioe o 7.30am. Mannau a fydd yn cael eu cadw ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Wi-Fi

Mae llecynnau WiFi rhad ac am ddim ar gael ym mhob cwr o faes y sioe yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, yn y mannau dilynol:

  • Ger Safle’r Seindorf
  • Hafod a Hendre
  • Canolfan yr Aelodau
  • Neuadd Henllan
  • Y mannau eistedd yng nghanol eisteddle’r Prif Gylch
  • Y gyffordd rhwng y Neuadd Fwyd a Chanolfan Cneifio Meirion
  • Y clawdd glaswelltog sy’n edrych dros y Prif Gylch wrth ochr Pafiliwn S4C

Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd fod o fewn 25m i arwyddion y llecynnau WiFi i sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaeth WiFi gorau.

Storfeydd bagiau siopa

Ceir dros 1,000 o stondinau masnach yn y sioe, ac mae digonedd o gyfleoedd i sbwylio eich hun yn y sioe eleni. Nid oes yn rhaid i chi boeni am gario eich bagiau siopa o fore gwyn tan nos… rydym ni’n cynnig ‘storfeydd bagiau siopa’ arbennig ble gallwch chi adael eich nwyddau nes byddwch chi’n barod i fynd adref.
Lleolir y rhain ger Mynedfa A a Rhodfa Cerddwyr Mynedfa’r Peiriannau, a byddant ar agor rhwng 9.00yb a 6.00yh.  Bydd storfa fwyd ar gael yn y Neuadd Fwyd rhwng 9.00yb a 6.00yh hefyd.

Ffotograffiaeth a ffilimo

Cofiwch y bydd lluniau yn cael eu tynnu a bydd ffilimio yn digwydd ym mhor cwr o faes y sioe at ddibenion darlledu, cyhoeddusrwydd a marchnata.

Bythod aelodaeth

Yn ystod y sioe, gellir prynu aelodaeth o’r Bythau Aelodaeth a leolir ger Mynedfeydd A ac C ac yn Nhŷ Ynys Môn, gyferbyn â Phafiliwn Maldwyn. Bydd y Bwth Aelodaeth ger Mynedfa C hefyd ar agor rhwng rhwng 12.00yp a 6.00 yh ar y prynhawn Sul cyn y sioe.

Swyddfa Gwobrau

Rhodfa K (Nesaf i’r Pafiliwn Rhyngwladol) – I gael canlyniadau gwobrau, ffoniwch (01982) 553905 ac nid Swyddfa’r Pencadlys. Mae’r canlyniadau hefyd ar gael ar Ap Sioe Frenhinol Cymru ac ar y wefan.

Caplaniaeth

Lleolir Tîm Caplaniaid Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yng nghyntedd Neuadd Clwyd Morgannwg, ac maent ar gael 24 awr y dydd. Gellir cysylltu â hwy trwy ffonio 0845 367 9990.

Cŵn

Ac eithrio cŵn cymorth, ni chaniateir cŵn o fewn ffens derfyn maes y sioe. NI CHANIATEIR UNRHYW GŴN CYMORTH mewn unrhyw adeiladau/mannau ble mae anifeiliaid byw, Neuadd Arddangos De Morgannwg, yr Eisteddle, Pafiliynau’r Aelodau, y Pafiliwn Ffwr a Phlu, Neuadd Clwyd Morgannwg, nac unrhyw un o lefydd bwyta’r Gymdeithas.  Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir.

Ysmygu

Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw le cyhoeddus amgaeëdig neu rannol amgaeëdig.

Alcohol

Ni chaniateir i ymwelwyr yfed alcohol wrth gerdded o amgylch maes y sioe nac yn y mannau cyhoeddus hynny sydd heb eu trwyddedu i werthu alcohol.