Cyfleusterau maes y sioe - Ffair Aeaf - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Parcio

Darperir parcio am ddim ar Faes y Sioe isaf, Gogledd 3, Bryn y Ceffyl a Iard yr Orsaf (maes parcio gorlif).

Mae parcio ceir hygyrch yn gyfyngedig ac yn gymwys i Ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig.

Toiledau, cawodydd a chyfleusterau newid babanod

  • Mynedfa A – Rhodfa E
  • Cylch Ceffylau (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl) – Rhodfa J/H
  • Cylch Ymgasglu’r Prif Gylch (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod) – Rhodfa K
  • Cylch Gwartheg, cornel uchaf (yn cynnwys cawodydd) – Rhodfa M
  • Cylch Moch a Geifr (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl a chawodydd) – Rhodfa M
  • Ardal Gweithgareddau Gwledig (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chawodydd) – Rhodfa D
  • Rhodfa Peiriannau (yn cynnwys cawodydd) – rhwng Rhodfeydd C a D
  • Neuadd Arddangos De Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
  • Hafod a Hendre (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod)
  • Pafiliwn Trefaldwyn (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
  • Canolfan Groeso (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl)
  • Pafiliwn Rhyngwladol (yn cynnwys cyfleusterau newid babanod i fyny’r grisiau a chyfleusterau i bobl anabl i lawr grisiau)
  • Neuadd Clwyd Morgannwg (yn cynnwys cyfleusterau i bobl anabl)

Mae cyfleusterau newid a bwydo babanod ar gael hefyd ym Mhafiliwn y Noddwyr, o dan yr eisteddle, ar yr adegau canlynol: Dydd Llun 10am – 7pm, Dydd Mawrth 10am – 4pm

Plant ar goll

Dylid rhoi gwybod am blant sydd ar goll i unrhyw un o swyddogion CAFC neu i stiward, a fydd yn gweithredu’r drefn plant ar goll.  Dylai unrhyw blentyn ar goll y deuir o hyd iddo yn y Ffair gael ei hebrwng gan o leiaf ddau oedolyn i’r Cyfleusterau Bwydo a Newid Babanod ym Mhafiliwn y Noddwyr, o dan yr eisteddle.

Peiriannau arian

Cyfeirnod Map 17 – Bydd cyfleuster peiriant arian parod a weithredir gan Cash for Events wedi’i leoli wrth ymyl Pafiliwn Montgomery.

Argyfyngau

Os digwydd argyfwng, ffoniwch 999. Yn achos materion nad ydynt yn argyfyngau, gellir cysylltu â’r heddlu ar: 101 neu mae Pencadlys CAFC nesaf at Bafiliwn Trefaldwyn (Rhif ffôn: 01982 553683).

Rydym yn meddwl yn ddifrifol am ddiogelwch ein hymwelwyr sy’n dod i’n digwyddiadau ac fe fydd gennym fesurau ar waith i’ch diogelu. Mae hyn yn cynnwys camerâu Teledu Cylch Cyfyng mewn nifer o fannau ar y safle, chwilio bagiau a gweithdrefnau a phrotocolau i’w dilyn mewn argyfwng.

Os oes unrhyw bryderon gennych neu os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni. Mae’n annhebygol y bydd ymosodiad gyda gwn neu gyllell ond petai hynny’n digwydd, cofiwch ‘RHEDWCH, CUDDIWCH a DYWEDWCH’. Pan fyddwch wedi dod o hyd i rywle diogel i guddio, diffoddwch y sain ar eich ffôn symudol a’i raglennu i beidio â dirgrynu.

Cymorth Cyntaf

Mae’r ganolfan cymorth cyntaf wedi’i lleoli yn nhŵr rheoli cylch y defaid, nesaf at y babell garcasau. (Rhif ffôn: 01982 554407).

Eiddo Coll

Nid yw’r gymdeithas yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am bethau a gollir neu a gaiff eu dwyn yn y Ffair.  Mae gan Heddlu Dyfed Powys drefn pethau a gollwyd ac a gafwyd newydd, rhowch wybod am unrhyw bethau a gollwyd trwy’r wefan ganlynol: www.reportmyloss.com/uk/

Wi-Fi

Bydd mannau poeth WiFi cyhoeddus am ddim o amgylch y prif gylch gwartheg (Neuadd 1), Hafod a Hendre, Neuadd Fwyd a’r Gwledd | Feast (Canolfan Cneifio Meirion).

Ffotograffiaeth a ffilmio

Cofiwch y bydd lluniau yn cael eu tynnu a bydd ffilmio’n digwydd ym mor cwr o faes y sioe at ddibenion darlledu, cyhoeddusrwydd a marchnata.

Ystafell Dlysau

Bydd Ystafell Dlysau CAFC, a leolir yn Neuadd Clwyd Morgannwg, ar agor o 10.00 am – 4.00 pm ar y ddau ddiwrnod.  Cedwir 125 o dlysau’r Gymdeithas yn yr ystafell.

Caplaniaeth

Lleolir Tîm Caplaniaid CAFC yng nghyntedd Neuadd Clwyd Morgannwg ac maent ar gael i gynnig gofal bugeiliol o 8am – 8pm. Mewn argyfwng, gellir cysylltu â nhw ar 07506 969195.

Cŵn

Ac eithrio cŵn cymorth a’r rheini sydd i gymryd rhan yn y Sioe Gŵn Hela, ni chaniateir cŵn yn y Ffair Aeaf. NI CHANIATEIR CŴN CYMORTH mewn unrhyw adeiladau/fannau sy’n cynnwys anifeiliaid byw, Neuadd Garcasau, Canolfan Arddangos Frenhinol Cymru, Pabell y Ceffylau a Llinellau’r Ceffylau, Pafiliwn Ffwr a Phlu, Neuadd Arddangos De Morgannwg oherwydd presenoldeb stoc neu’u lleoliad.  Byddir yn caniatáu cŵn cymorth yn y Neuadd Fwyd a’r Mannau Arlwyo.  Peidiwch â gadael cŵn mewn ceir.

Ysmygu

Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw le cyhoeddus amgaeedig neu rannol amgaeedig.

Alcohol

Ni chaniateir i ymwelwyr yfed alcohol tra byddant yn cerdded o amgylch maes y sioe nac yn y mannau cyhoeddus hynny sydd heb eu trwyddedu i werthu alcohol.