Hyrwyddo ein Cefn Gwlad
Wrth i mi roi pen ar bapur, rwy’n myfyrio unwaith eto ar yr hyn sydd, heb amheuaeth, wedi bod yn anrhydedd fwyaf fy mywyd – un na allwn erioed fod wedi ei ddychmygu yr holl flynyddoedd hynny yn ôl wrth imi adael yr ysgol yn 14 oed.
Daeth cefn gwlad yn ystafell ddosbarth imi, o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Cafodd fy addysg ei siapio gan sioeau amaethyddol, bwrlwm marchnadoedd da byw, angerdd cymdeithasau bridiau ac, yn anad dim, mudiad y Ffermwyr Ifanc.
Wrth edrych yn ôl, allwn i erioed fod wedi dychmygu’r llwybr oedd o’m blaen. Mae dilyn yn ôl troed cymaint o unigolion nodedig sydd wedi gwasanaethu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac wedi hyrwyddo cefn gwlad gyda’r fath ymroddiad yn gwneud imi deimlo’n ostyngedig iawn ac mae’n sicr yn rhywbeth ystyrlon dros ben. Mae’n fraint sy’n rhoi balchder aruthrol imi ac yn un yr wyf yn gobeithio ei chyflawni gyda’r un ymroddiad i amaethyddiaeth, bywyd gwledig a chymuned ag sydd wedi diffinio Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ers tro.
Mae sioeau amaethyddol wedi bod yno’n gyson trwy gydol fy mywyd. O oedran ifanc, roedd Sadyrnau’r haf yn golygu arddangos da byw – brîd Henffordd corniog pedigrî Cefnbrynich i ddechrau ochr yn ochr â fy nhad ac, yn ddiweddarach, ar ôl gadael yr ysgol, defaid Cheviot Bryniau Brycheiniog.
Yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny cefais brofiad ymarferol amhrisiadwy, ond hefyd y cyfle i ddysgu gan aelodau hynaf y byd da byw, y gadawodd eu gwybodaeth, eu doethineb a’u haelioni argraff barhaol arnaf. Mae’r teulu wedi arddangos yn y Sioe ar sawl achlysur; heb os, yr uchafbwynt oedd gweld y genhedlaeth nesaf – saith cefnder Havard – yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth y Trinwyr Ifainc tua 2012.
Mae fy ymweliad cyntaf â’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn fyw yn y cof. Fel plentyn a oedd yn fwy cyfarwydd ag agosatrwydd Sioe Senni ar y pryd, roedd maint ac uchelgais y Sioe Frenhinol yn destun ysbrydoliaeth ac, ar adegau, yn gorlethu. Yn y cyfnod cyn ffonau symudol, roedd aros yn agos at fy rhieni rhag ofn dod yn ‘blentyn coll’ yn hanfodol.
Mae cysylltiad agos ein sir â Llanelwedd yn ein rhoi wrth galon Sioe Frenhinol Cymru ac ni ellir gorbwysleisio’r manteision economaidd a chymdeithasol sy’n deillio o’r berthynas hon. Mae gweithgareddau’r gymdeithas yn cynhyrchu degau o filiynau o bunnau bob blwyddyn i’r economi leol, ac yn cynnal ffabrig diwylliannol ein cymunedau gwledig a, law yn llaw â hynny, y Gymraeg.
Mae’r cylch Siroedd Nawdd wedi cynnig cyfleoedd gwych i gryfhau’r cysylltiadau hyn ymhellach trwy gyfres o ddigwyddiadau a gefnogir yn dda. Mae’r rhain yn dod â phobl o bob cwr o’r sir at ei gilydd mewn ysbryd o gydweithio a dathlu.
Dechreuodd rhaglen 2025, wrth i ni ‘gysgodi’ Caernarfon, gyda stondin blanhigion hynod boblogaidd un o hoelion wyth y sir, sef Jennifer Thomas.
I ddilyn, cafwyd llif cyson o ddigwyddiadau anhygoel gan gynnwys Ras Beicio Cwad yr Epynt, Pencampwyr dan Gynfas, Swper Stocmyn Elfed ac, wrth gwrs, y diwrnod bythgofiadwy hwnnw yn nigwyddiad ‘Shearing is Caring’ Cnewr, i enwi ond ychydig.
Y penllanw oedd perfformiad cyntaf Côr y Sir Nawdd, sydd â 100 o aelodau, mewn gwasanaeth carolau arbennig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Cefnogwyd y côr gan ensemble o Fand Milwrol y Cymry Brenhinol a oedd yn ddathliad addas iawn o gymuned, cerddoriaeth a chyd-ymdrech, ac a fwynhawyd gan gynulleidfa lawn.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r paratoadau ar gyfer 2026 yn symud ymlaen yn gyflym, gyda’n Digwyddiad Tir Glas blaenllaw wedi’i drefnu ar gyfer 12 Mehefin ar Fferm Cwmbrynich, pan bydd yn anrhydedd i’n teulu gynnal y cynulliad pwysig hwn. Mae’r teulu Havard wedi bod yn gweithio’r tir yn yr ardal hon ers canrifoedd – ers i’r teulu gyrraedd Pontwilym am y tro cyntaf yn 1093 – ac ni ellir peidio â dychmygu llawenydd ein cyndeidiau pe baent yn gyrru heibio i’r fferm ar y diwrnod arbennig hwnnw ym mis Mehefin.
O dan arweiniad profiadol y cyn-Lywydd Mr John Davies o Fferm Pentre – yr arloeswr y tu ôl i ddigwyddiad Tir Glas cyntaf CAFC – mae’r pwyllgor sy’n trefnu’r digwyddiad yn gweithio’n ddiwyd i gyflwyno digwyddiad o’r radd flaenaf. Mae diddordeb yr arddangoswyr yn gryf ac mae’r safle’n datblygu’n dda, ac rwy’n hyderus y bydd yn cwrdd â disgwyliadau ein Llywydd Tir Glas sydd bob amser yn barod i dorchi llewys, Mr Gareth Wynn Davies, cyn Brif Swyddog Gweithredol Wynnstay.
Mae brwdfrydedd a chefnogaeth unigolion, busnesau a sefydliadau ledled y sir yn destun gostyngeiddrwydd ac yn tawelu’r meddwl. Fel teulu, mae’n diolch yn ddiffuant iawn i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, eu hadnoddau a’u hewyllys da i gefnogi’r Gymdeithas a chryfhau’r cysylltiadau sy’n sail i fywyd gwledig.
Wrth i’r sylw droi at y Sioe Frenhinol ei hun, does dim prinder cyffro ar aelwyd Llwynrhys – yn enwedig pan fydd y garafán yn cael ei pharatoi at ei phererindod flynyddol i Lanelwedd. Bydd y mis Gorffennaf hwn yn un arbennig o arwyddocaol ac edrychwn ymlaen at groesawu arddangoswyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Fel dyn y da byw, dydy ansawdd yr arddangosfeydd fyth yn methu â fy syfrdanu – yn syml, y crème de la crème. Yn ddiweddar, rydyn ni wedi nodi 30 mlynedd ers tynnu cig eidion yn ôl o’r gadwyn fwyd ar 25 Mawrth 1996, pan deimlwyd effaith ddinistriol BSE yn llawn gan gymuned ffermio’r DU. Rydym yn dal i fyw gydag effaith barhaus a dirdynnol TB.
Dros y tri degawd diwethaf, mae’r diwydiant wedi wynebu heriau enfawr: clefydau, ansicrwydd gwleidyddol a phwysau’r farchnad a brofodd ei gydnerthedd. Eto, trwy gydol y cyfnod, mae ein ffermwyr wedi parhau i gynhyrchu bwyd o’r safon uchaf, yn aml heb gydnabyddiaeth briodol.
Gyda chynhyrchiant ar draws y byd yn tynhau a phoblogaethau’n cynyddu, mae pwysigrwydd ein rôl wrth gynhyrchu bwyd yn dod yn amlwg iawn unwaith eto. Rwy’n credu’n gryf fod amaethyddiaeth yn sefyll ar drothwy gwerthfawrogiad a chanmoliaeth o’r newydd.
Heb amheuaeth, bydd gweledigaeth a bywiogrwydd y genhedlaeth hon o ffermwyr ifanc – yn fy marn i, yr un fwyaf hanfodol ers yr Ail Ryfel Byd – yn codi i’r her ac yn arwain amaethyddiaeth i oes newydd o gyfleoedd. Bydd yn rhaid iddynt gamu i fyny yn sgil y cynnydd yn y boblogaeth a’r pwysau helaeth o gynhyrchu bwyd mewn cyd-destun sy’n drefol yn bennaf.
Ac, wrth imi ddwyn pethau i fwcl, rhaid imi ddweud na fyddai’r anrhydedd o wasanaethu fel eich Llywydd wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ddiwyro fy ngwraig Ceri, ein merched Elin, Nia a Ffion, fy nheulu estynedig a’m ffrindiau ffyddlon. Rwyf hefyd yn ddiolchgar dros ben i’r Pwyllgor Cynghorol, staff amhrisiadwy CAFC dan arweiniad ein Prif Weithredwr gweithgar, Aled Jones, y swyddogion a’r gwirfoddolwyr niferus sy’n rhoi mor hael o’u hamser.
Yn olaf, wrth anrhydeddu’r rheiny a oedd â’r weledigaeth i ymddiried i ni rywbeth mor werthfawr, mae Brycheiniog yn falch o chwarae rhan fechan wrth sicrhau ei bod yn parhau ac, yn fwy na hynny, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.
Diolch yn fawr.
Gethin W T Havard FRAgS