Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae gan Sioe Frenhinol Cymru rywbeth i ddiddori pawb trwy gyfrwng ei hamrywiaeth eang o ddosbarthiadau da byw, sy’n denu dros 7,500 o geisiadau o bob cwr o Gymru, y DU a gweddill Ewrop, yn ogystal â gweithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr ddyddiol yn llawn adloniant cyffrous, atyniadau ac arddangosiadau.

Lawrlwythwch Ap Frenhinol Cymru

Mae fersiwn 2023 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.

Beth Sydd Wedi’i Gynnwys yn Eich Tocyn?

Mae’ch tocyn yn llawer iawn mwy na dim ond mynediad i Faes y Sioe. Mae’r Sioe’n ddigwyddiad pedwar diwrnod llawn mynd, sy’n dathlu nid yn unig fwyd a ffermio ond hefyd ddiwylliant, amrywiaeth, y Gymraeg, angerdd, a chariad at y tir.

PRYNWCH EICH TOCYNNAU NAWR

Peidiwch ag oedi! Osgowch y ciwiau wrth y giât a manteisiwch ar brisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw, trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.