Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Ymunwch â ni ar gyfer y gŵyl yn 2022!
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
Y Sioe 2021 wedi’i gohirio
Ymunwch â ni yn 2022!
Bod dydd, gallwch chi fwynhau rhaglen 12 awr o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous yn Sioe Frenhinol Cymru. Trowch at ein hamserlenni i gael manylion y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal bob dydd.
Mae fersiwn 2019 o Ap Frenhinol Cymru ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n adnodd dwyieithog hwylus sy’n cynnwys map rhyngweithiol, y canlyniadau diweddaraf a llawer rhagor, yn cynnwys gwybodaeth am draffig, y tywydd lleol a manylion ynghylch cadw’n ddiogel yn ei digwyddiadau ac yn yr ardal leol.
Peidiwch ag oedi! Osgowch y ciwiau wrth y giât a manteisiwch ar brisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw, trwy brynu eich tocyn ar-lein nawr.