Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
16 & 17 Mai 2020
Gatiau’n agor am 9 y bore
Tocynnau Oedolion £16 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael
Mynediad AM DDIM i bob plentyn 16 oed ac iau
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
20 – 23 Gorffennaf 2020
Gatiau’n agor am 8 y bore
Tocynnau Oedolion: o £28 wrth y giât, gostyngiadau ar-lein ar gael
Tocynnau Plant: (5-16) £5
Plant dan 5: AM DDIM
Gellir llunio pecynnau nawdd a chyfleoedd yn benodol i weddu i'ch gofynion a'ch cyllideb. P'un ai a oes gennych chi ddiddordeb mewn hysbysebu mewn catalog, noddi dosbarth dangos da byw neu ddod yn brif noddwr un o'r digwyddiadau, mae cyfle ar gael i chi.