Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Bob blwyddyn, bydd gan y gymdeithas Sir Nawdd wahanol. Mae hyn yn tarddu o hanes cynnar y sioe, pan newidiai ei leoliad flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn symud o gwmpas yr hen siroedd yng Nghymru.
Ers symud i’n cartref parhaol yn Llanelwedd yn 1963, mae’r siroedd yn eu tro yn Sir Nawdd. Yn ystod eu blwyddyn benodol, bydd y Sir Nawdd yn penodi Llywydd a Llysgenhades y Gymdeithas, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y gymdeithas a’r digwyddiadau.
Strwythur unigryw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol yw beth sy’n gwneud y gymdeithas yn wahanol i rai eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchnogaeth o’r digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd ers 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, ac mae’r cyfan wedi’i fuddsoddi’n ôl i faes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchnogaeth o’n safle.
Eleni, cyfle Clwyd yw hi i fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Cychwynnodd ymdrechion Clwyd o ddifrif yn 2019, dan arweiniad rhagorol eu pwyllgor ymgynghorol. Mae dwsin o ddigwyddiadau eisoes wedi cael eu cynnal, ac mae ymdrechion codi arian y sir brysur bellach yn eu hanterth.
Lowri Lloyd Williams yw Llysgennad 2020/21. Bydd Lowri yn ein diweddaru am holl weithgareddau’r sir nawdd yn ei blog rheolaidd.
Oherwydd COVID-19 mae’n ddrwg gennym eich hysbysu bod y DIgwyddiad Tis Glas 2020 wedi’i ganslo.
Bydd Clwyd yn trefnu’r Digwyddiad Tir Glas 2021 a gynhelir yng Ngholeg Cambria – Llysfasi, Rhuthun, Sir Ddinbych ar 13 Mai 2021.
Oherwydd COVID-19 canslodd y gymdeithas y Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Digwyddiad Tir Glas a Sioe Frenhinol Cymru yn 2020. Mae’r Gymdeithas wedi penderfynu ymestyn Blwyddyn Sir Nawdd Clwyds i 2021. Yna bydd hyn yn gwthio blynyddoedd dilynol yn ôl 12 mis.
2022 Morgannwg
2023 Ceredigion
2024 Caernarfon
2025 Sir Frycheiniog
2026 Ynys Môn
2027 Maesyfed
2028 Gwent
2029 Meirionnydd
2020 Sir Gaerfyrddin
2031 Maldwyn
2032 Sir Benfro
2033 Clwyd