Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Cyhoeddi Enillydd Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2024 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Cyhoeddi Enillydd Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2024

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn falch o gyhoeddi mai enillydd Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2024 yw Sioned Davies, bargyfreithiwraig o Wernhelog, Llanfaredd, Llanfair-ym-Muallt. Bydd Sioned yn derbyn yr ysgoloriaeth fawreddog hon yn ffurfiol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar Dachwedd 25, 2024.

Mae arbenigedd Sioned mewn cynllunio a chyfraith amgylcheddol, ynghyd â’i hangerdd dwfn am amaethyddiaeth, yn ei gwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer Ysgoloriaeth Nuffield eleni. Fel bargyfreithiwr, mae Sioned wedi cynrychioli ystod o randdeiliaid o fewn y sectorau cynllunio ac amgylcheddol, gan gynnwys busnesau amaeth, datblygwyr masnachol, a chyrff cyhoeddus. Mae ei chefndir proffesiynol wedi caniatáu iddi fynd i’r afael â heriau rheoleiddio cymhleth sy’n wynebu datblygiadau amaethyddol, gan gynnwys gosodiadau da byw dwys, prosiectau ynni adnewyddadwy, a materion gorfodi.

Trwy tyfu i fyny ar ei fferm deuluol a thrwy gweithio o fewn y sector cyfraith amaethyddol, mae gan Sioned bersbectif unigryw ar yr heriau sy’n wynebu ffermwyr heddiw. Ysbrydolodd y cefndir hwn ei phrosiect ymchwil Nuffield, a fydd yn canolbwyntio ar “Cynhyrchu Proteinau Cenbryfed gan Ddefnyddio Sbwriel Cyw Iâr Ar y Fferm”. Nod ei hymagwedd arloesol yw mynd i’r afael â’r problemau llygredd dybryd yn nalgylch Afon Gwy trwy drawsnewid gwastraff o ffermio dofednod dwys yn brotein pryfed cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer porthiant anifeiliaid.

Bydd y prosiect hwn yn gweld Sioned yn teithio’n rhyngwladol i ddysgu gan arweinwyr diwydiant ac archwilio datrysiadau graddadwy. Mae ei thaith yn cynnwys ymweliadau ag Ewrop, Awstralia, Seland Newydd ac Asia, lle bydd yn astudio dulliau cynhyrchu protein pryfed uwch a strategaethau ar gyfer amaethyddiaeth gylchol. Mae ei hymchwil yn addo cynnig mewnwelediad gwerthfawr i arferion ffermio cynaliadwy ar gyfer amaethyddiaeth Cymru a thu hwnt.

Mae CAFC yn llongyfarch Sioned Davies ar y gamp anhygoel hon ac yn edrych ymlaen at ddilyn ei thaith. Mae’r Gymdeithas yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi a dathlu arloesedd yn y sector amaethyddol, ac mae prosiect Sioned yn gam sylweddol tuag at atebion ffermio cynaliadwy yng Nghymru.

Cefnogir Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield CAFC gan fwrsariaeth Eira Francis Davies.