BWRSARI CYNHADLEDD FFERMIO RHYDYCHEN CAFC 2025 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bwrsari Cynhadledd Fermio Rhydychen Cymdeithas Amaethyddol Cymru 2025

Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) gyhoeddi mai Dr Cennydd Owen Jones yw derbynnydd Bwrsariaeth CAFC 2025, gan ei alluogi i fynychu Cynhadledd Ffermio fawreddog Rhydychen, a gynhelir rhwng Ionawr 8-10, 2025. Thema’r gynhadledd ” Wynebu Newid, Dod o Hyd i Gyfle,” yn gynulliad sylweddol ar gyfer arweinwyr barn ac arloeswyr ar draws y sectorau amaethyddol, gwledig a bwyd, sy’n adnabyddus am ei ddadleuon a’i thrafodaethau dylanwadol a siaradwyr o safon uchel.

Dyfernir Bwrsariaeth CAFC yn flynyddol i ymgeisydd rhwng 25 a 35 oed sy’n gweithio’n weithredol o fewn  ddiwydiannau’r tir. Ni ddylai ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr ac ni ddylent fod wedi derbyn Ysgoloriaeth CAFC neu Ddyfarniad Myfyriwr  y Gymdeithas o fewn y tair blynedd diwethaf. Fel rhan o’r fwrsariaeth, bydd Dr Jones hefyd yn cael cyfle i gyfrannu erthygl ar gyfer Cylchgrawn y Gymdeithas 2025, gan rannu mewnwelediadau o’r gynhadledd gydag aelodau CAFC.

Yn dilyn proses gyfweld drylwyr gyda phanel yn cynnwys cynrychiolwyr CAFC Esyllt Ellis Griffiths, Jonathan Hugh Davies, ac enillydd bwrsariaeth 2024 Glenn Lloyd, daeth Dr. Jones i’r amlwg fel yr ymgeisydd a ddewiswyd eleni. Daeth pob ymgeisydd a enwebwyd gan y sir â safbwyntiau unigryw a dangos ymrwymiad ysbrydoledig i ddyfodol amaethyddiaeth a chymunedau gwledig. Canmolodd y beirniaid safon uchel ac angerdd yr holl ymgeiswyr, a oedd yn cynnwys:

  • Sara Roberts o Sir Gaerfyrddin
  • Emily Morgan o Sir Forgannwg
  • Leah Davies o Glwyd
  • Cennydd Owen Jones o Geredigion
  • Lynfa Jones o Sir Drefaldwyn

 

Mae Dr. Cennydd Owen Jones yn ddarlithydd Rheoli Glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei waith ymchwil, yn enwedig ei waith ar ffynonellau amgylcheddol TB Buchol yng Nghymru, wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiadau mewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Yn ogystal, mae’n goruchwylio nifer o brosiectau ymchwil ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar Reoli Glaswelltir. Ochr yn ochr â’i yrfa academaidd, mae Dr. Jones yn bartner ymarferol yn y fferm deuluol, lle mae’n goruchwylio 80 o wartheg godro ar system laswelltir heb fawr o fewnbynnau.

 

Mae CAFC yn estyn eu llongyfarchiadau i Dr. Jones ac yn edrych ymlaen at y mewnwelediadau gwerthfawr y bydd yn dod yn ôl o Gynhadledd Ffermio Rhydychen, gan gyfrannu at ddatblygiad amaethyddiaeth Cymru a’r diwydiant gwledig ehangach yn y dyfodol.