Tracy Powell yn Ennill Gwobr Goffa John Gittins 2024 am Gyfraniad Neilltuol i Ddiwydiant Defaid Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn falch o gyhoeddi mai Mrs.

Tracy Powell o Flaenbwch, Llanfair-ym-Muallt, yw enillydd Gwobr Goffa uchel ei bri John

Gittins yn 2024. Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion sydd wedi cael effaith neilltuol ar

Ddiwydiant Defaid Cymru trwy eu hymrwymiad, eu harloesedd a’u gwasanaeth.

Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn gwahodd enwebiadau

gan ei Phwyllgorau Ymgynghorol ledled Cymru, ochr yn ochr â Chymdeithas Bridwyr

Defaid Croesryw Cymreig, NSA Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, a CLA. Ar

ôl adolygu’r enwebiadau’n fanwl, cydnabu’r panel beirniadu gyfraniadau neilltuol Mrs.

Powell i faes ffermio defaid yng Nghymru, ac fe’i dewiswyd o blith carfan cryf o ymgeiswyr.

Bydd yn derbyn darn o Grisial Cymreig wedi’i grefftio’n arbennig, a noddir gan Gymdeithas

Bridwyr Defaid Croesryw Cymreig, ddydd Llun, 25 Tachwedd, 2024. Yn ogystal, bydd Mrs.

Powell yn ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr y Gymdeithas 2024, yn rhannu ei

phrofiadau.

Mae Tracy Powell wedi rhoi dros 30 mlynedd o wasanaeth i CAFC, ac mae wedi gwneud

gwaith allweddol wrth godi proffil cneifio yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Dechreuodd Tracy ei gyrfa yn Adran Da Byw CAFC, a chafodd ei dyrchafu i swydd

Swyddog Da Byw o fewn pum mlynedd. Dros y 19 mlynedd diwethaf mae Tracy wedi

gwasanaethu fel Swyddog Rhaglen ac mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys trefnu

cystadlaethau cneifio, casglu data ar gyfer rhaglen a chatalog y Gymdeithas, a churadu

cynnwys Blwyddlyfr CAFC. Mae gwaith diflino Tracy yn sicrhau bod y cystadlaethau

cneifio, sydd ymhlith y digwyddiadau mwyaf yn Sioe Frenhinol Cymru, yn rhedeg yn llyfn,

fel bod cystadleuwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd ar eu hennill.

Mae Tracy hefyd yn cydweithio’n agos â Chyngor y Byd Golden Shears a Chymdeithas

Cystadlaethau Cneifio Ynysoedd Prydain, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn

flaenllaw ar lwyfan y byd. Mae’n cefnogi Tîm Cymru wrth iddo gystadlu mewn

pencampwriaethau rhyngwladol gwahanol, gan gynnwys Pencampwriaethau’r Byd Golden

Shears, Y Chwe Gwlad, a gemau prawf ledled y DU, Iwerddon a Ffrainc.

Amlygwyd ei chyfraniadau yn 2010 pan helpodd CAFC i gynnal y Golden Shears, sef

digwyddiad pwysig a ddenodd gystadleuwyr o dros 30 o wledydd. Mae Tracy a’i gŵr Rob

cafc.cymru

rwas.cymru 2

hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cneifio sydd wedi torri record ar fferm y teulu,

Blaenbwch, gan danlinellu ei hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o gneifwyr

Cymreig.

Sylwadau’r Beirniaid

Nododd y panel beirniadu, a oedd yn cynnwys Mr. Dafydd Parry Jones (CAFC), Mr.

Richard Thomas (Cymdeithas Bridwyr Defaid Croesfryd Cymreig), a Ms. Caryl Hughes

(NSA Cymru), ymroddiad neilltuol Mrs. Powell a’i heffaith gadarnhaol ar y diwydiant.

Roedd ei hangerdd dros hyrwyddo cneifio yng Nghymru, a’i hanogaeth i dalent ifanc a

chynnwys y gymuned yn y byd cneifio, yn ffactorau pwysig yn eu penderfyniad.

Bydd Tracy yn derbyn ei gwobr yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, sydd ar droed, ar

Faes y Sioe, Llanelwedd ddydd Llun 25 Tachwedd 2024

Cystadleuwyr 2024

Roedd enwebeion eleni hefyd yn cynnwys pobl flaenllaw o bob rhan o Gymru:

Brycheiniog

Mr Gwyn Davies,Fferm Caebetran , Powys

Sir Gaerfyrddin

Mr Adrian Davies, Fferm Glanbrydan , Sir Gaerfyrddin

Ceredigion

Mr Gwyn Davies, Trefere Uchaf, Ceredigion

Clwyd a Swydd Gaer

Mr Martin Sivill, Fferm Plas Coch, Sir Ddinbych

Sir Forgannwg

Mrs Katie-Rose Davies, Fferm Nantymoel, Sir Forgannwg

Sir Fynwy

Mr Aled Groucott, Fferm Swffryd Farm, Sit Fynwy

Sir Drefaldwyn

Mr Dylan Jones, Lluest Wen, Powys

Sir Benfro

Mr T Russell Davies, Rhydymerydd, Sir Benfro

NFU Cymru

Mr Robert Lewis FRAgS, Glan Elan, Powys

NSA Cymru/Wales

Mr Tim Ward, The Old Byre, Powys

Welsh Mule Sheep Breeders Association Ltd

Mrs Tracy Powell, Blaenbwch, Powys

Mae CAFC yn llongyfarch pob enwebai am eu hymroddiad ac yn diolch iddynt am eu

cyfraniadau i Ddiwydiant Defaid Cymru.